Cyflogi Cynorthwywyr Personol (CP)
Os byddwch yn dewis cyflogi CP gan ddefnyddio eich Taliad Uniongyrchol, bydd gofyn i chi ystyried rhai pethau. Ceir gofynion cyfreithiol ac arfer da cyffredinol y bydd gofyn cydymffurfio â nhw, megis:
- Cadw cofnodion
- Defnyddio cyflogres a darparu pensiynau pan fo hynny'n berthnasol
- Darparu tâl gwyliau a chadw cofnod o hyn
- Sicrhau bod yswiriant cyflogwr ac atebolrwydd cyhoeddus yn ei le
- Arfer recriwtio diogel e.e. archwiliadau hawl i weithio ac archwiliadau DBS
- Iechyd a diogelwch
- Mynediad i hyfforddiant
- Darparu contractau cyflogaeth
Fodd bynnag, gall y Swyddogion Cymorth Taliadau Uniongyrchol roi'r cymorth a'r wybodaeth angenrheidiol i chi mewn perthynas â'r holl bethau uchod. Nid ydych ar eich pen eich hun yn y rôl newydd hwn, rydym yma i'ch cynorthwyo a'ch tywys trwy'r cam o ddod yn gyflogwr.
Ceir gwybodaeth bellach am rôl y cyflogwr, ynghyd ag astudiaethau achos, ar hyb Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gallwch siarad â'r tîm Taliadau Uniongyrchol hefyd i gael gwybod mwy (nodwch y rhif ffôn)
Hyfforddiant
Bydd angen i chi ystyried pa hyfforddiant y bydd ei angen ar eich CP efallai.
Ceir nifer o gyfleoedd i fanteisio ar hyfforddiant, trowch at ein tudalen hyfforddiant am ragor o wybodaeth.