Skip to main content

Ceredigion County Council website

Helpu i Adael yr Ysbyty

Ydych chi’n mynd mewn i’r Ysbyty ac yn poeni y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd gofalu ar ôl eich hun pan fyddwch chi wedi eich rhyddhau?

Mae cymorth ar gael hyd nes byddwch wedi ailennill eich hyder a’ch annibyniaeth. Os yw eich ymweliad â’r ysbyty wedi ei gynllunio ymlaen llaw mi allwch siarad â nyrs yn ystod eich asesiad cyn llawdriniaeth neu mi allwch siarad ag aelod o’r staff pan rydych chi ar ward yr Ysbyty. Bydd yr ysbyty wedyn yn sicrhau bydd trefniadau wedi eu gwneud ar eich cyfer, a’ch bod yn ddiogel i fynd adref cyn eich rhyddhau o’u gofal.

Cymorth Ymarferol

Mae’n bosib y bydd y Gwasanaeth Gofal wedi’i Dargedu a Galluogi  ac a ddarparwyd gan Wasanaethau Cymdeithasol yn medru eich cynorthwyo os ydych yn cael anhawster gyda thasgau dyddiol megis gofal personol, ailgynhyrchu prydau a symud oddi amgylch. Bydd yr Ysbyty yn eich cyfeirio at y gwasanaeth yma os yw’n briodol. Ymweld â'r tudalen Gofal o fewn y Cartref am fwy o wybodaeth.

Mae’r Groes Goch yn cynnig ‘Gwasanaeth Cefnogaeth yn y Cartref’ lle mae gwirfoddolwyr yn medru ailadeiladu eich hyder, gan gynnig cwmnïaeth a chymorth â siopa a chasglu presgripsiwn yn union ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty a hyd at 6 wythnos. Mae’n bosib iddynt hefyd eich cynorthwyo os ydych chi wedi bod yn yr Adran Brys ac Argyfwng ac wedi eich anfon gartref. 

Gellir hefyd cael fenthyg cymhorthion i’ch cynorthwyo i symud a chyfarpar arall oddi wrth y Groes Goch fydd yn gwneud bywyd tipyn yn haws e.e. cadair olwynion, comôd, sedd bath, rest i’r cefn. Dyma eu rhif ffôn lleol: 01239 615945 neu os hoffech fwy o wybodaeth ewch i’w gwefan: Y Groes Goch.

Gwybodaeth a Chyngor

Bydd yr Elusen Independent Age yn darparu cefnogaeth a chyngor i bobl hŷn. Mae’n bosib y bydd eu ‘Hospital Care in Wales: Everything you need to know before, during and after your stay’ yn ddefnyddiol. Cliciwch ar y ddolen gyswllt isod: www.independentage.org (Hospital Care in Wales)

Maent hefyd wedi creu cyfres o ‘Ganllawiau Call’ (gan gynnwys Cyngor ar gyfer bywyd hŷn - cefnogaeth a hawliadau ar gyfer pobl dros 65oed i fyw’n annibynnol) gyda llawer o wybodaeth ddefnyddiol a syniadau da. Cliciwch ar y dolenni cyswllt canlynol: www.independentage.org

Neu os hoffech chi siarad ag un o’u Cynghorwyr ffoniwch 0800 319 6789 (ddydd Llun i ddydd Gwener, 10.00 - 16.00) neu mi allwch e-bostio advice@independentage.org

Mae Age Cymru hefyd yn darparu cymorth a chyngor ar gyfer pobl hŷn. Mae ganddynt nifer o daflenni ffeithiau a chanllawiau ar ‘Cymorth gyda gofal yn eich Cartref’ ar eu gwefan, cliciwch ar y ddolen gyswllt ganlynol: www.ageuk.org.uk

Neu mi allwch gysylltu â hwy fel a ganlyn:

Ffon: 01545 570881

E-bost: clic@ceredigion.gov.uk