Atgyweiriadau Cartref ac Addasiadau i'r Anabl
Atgyweiriadau Cartref
Os oes angen cymorth ariannol arnoch i gwblhau atgyweiriadau i'ch cartref, mae Cyngor Sir Ceredigion yn trefnu amrywiaeth o grantiau i gynorthwyo perchnogion tai'r sir. Mae rhagor o wybodaeth am y grantiau penodol sydd ar gael a'r meini prawf o ran cymhwyso iddynt ar gael yma:
Atgyweiriadau a Benthyciadau - Cyngor Sir Ceredigion
Addasiadau i'r Anabl
Mae grantiau amrywiol ar gael i gefnogi trigolion Ceredigion i gynnal annibyniaeth o fewn eu cartrefi eu hunain.
Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gael i addasu eiddo i fod yn addas ar gyfer anghenion penodol person anabl sy'n byw yn yr eiddo hwnnw. Rhoddir cymorth ar gyfer:
- Hwyluso mynediad.
- Darparu cyfleusterau addas.
- Gwneud adeilad yn ddiogel i'w ddefnyddio.
- Gwneud gwelliannau amgylcheddol i alluogi'r person anabl i fyw yn ddiogel yn ei gartref.
Mae grantiau Diogel, Cynnes a Sicr ar gael ar gyfer addasiadau llai ac offer sydd eu hangen i alluogi person i fyw yn annibynnol yn ei gartref ei hun. Mae'r gwaith cymwys yn cynnwys:
- Grisiau, rampiau bach
- Rheiliau neu rheiliau llaw
- Lifft yn y bath
- Tapiau lefel
Enghreifftiau yn unig yw’r uchod o’r hyn y gellir defnyddio’r grant ar ei gyfer.
Gall unrhyw un y mae Therapydd Galwedigaethol yn ystyried bod angen gwaith wedi’i wneud yn ei gartref sy’n gymwys am grant, wneud cais am un o’r grantiau uchod.
Ceir rhagor o wybodaeth a’r meini prawf ar gyfer cymhwyso am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a grantiau Diogel, Cynnes a Sicr yma:
Grant Cyfleusterau i'r Anabl - Cyngor Sir Ceredigion
Fel arall, mae Dewis Cymru yn gyfeiriadur o wasanaethau y gall pobl ei ddefnyddio i gael gwybod am wasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae rhagor o wybodaeth am Dewis Cymru ar gael yma: