Gofalu am blentyn rydych eisoes yn ei adnadob
Maethu preifat yw pan fydd plentyn o dan 16 oed (neu o dan 18 oed os yw’n anabl) yn derbyn gofal am fwy na 28 diwrnod gan oedolyn nad yw’n perthyn iddo nac ychwaith yn rhywun sydd â chyfrifoldeb rhieni amdano, a hynny drwy drefniant preifat rhwng ei rieni a gofalwr.
Er enghraifft
- plentyn a anfonwyd i’r wlad yma ar gyfer addysg neu ofal iechyd gan ei rieni geni sy’n byw’n dramor
- plant sy’n byw gyda theulu ffrindiau o ganlyniad i’r rhieni’n rhannu, ysgariad neu ddadlau yn y cartref neu am unrhyw reswm arall
- pobl ifanc yn eu harddegau sy’n byw gyda theulu eu cariad
- pobl y mae eu gwaith yn golygu oriau anghymdeithasol sy’n ei gwneud hi’n anodd defnyddio gofal dydd arferol
- plant, sydd am resymau addysgol yn aros gyda ffrindiau neu gymdogion pan fydd eu rhieni’n symud
Os ydych eisoes yn ofalwr maeth preifat neu'n gwybod bod plentyn yn dod i aros gyda chi, ffoniwch CLIC ar 01545570881.
Beth sy’n ofynnol i mi ei wneud os byddaf yn bwriadu maethu plentyn yn breifat?
Yn ôl y gyfraith bydd yn ofynnol i chi hysbysu’r Awdurdod Lleol o leiaf 6 wythnos ymlaen llaw os ydych chi’n bwriadu maethu plentyn yn breifat. Fodd bynnag os bydd y plentyn yn cyrraedd yn sydyn, dylech eu hysbysu nid yn fwy na 48 awr ar ôl i’r plentyn gyrraedd.
Gwnewch yn siŵr fod rhieni’r plentyn yn dweud gymaint â phosib wrthych am y plentyn, ei iechyd, unrhyw driniaeth neu feddyginiaeth mae’n derbyn, diet a hoff fwyd gan gynnwys ei addysg a chyflawniadau, arferion bob dydd e.e. amser gwely, gweithgareddau amser hamdden, diddordebau a gweithgareddau, ei grefydd a chefndir diwylliannol a phwy yn union sy’n meddu ar ddogfennau meddygol ac addysgol y plentyn. Bydd hyn o gymorth i chi ddeall y plentyn a chymryd gwell gofal ohono. Bydd hefyd yn bwysig i fod yn hollol glir os ydynt yn dirprwyo awdurdod i chi roi caniatâd am bethau fel teithiau ysgol neu hawl meddygol a bod gennych brawf o hynny.
Sut allaf gael cymorth pan fyddaf yn maethu?
Bydd gofalwyr maethu preifat yn medru mynd at eu hawdurdod lleol am help a chymorth ar ofalu am blentyn / plant yn eu gofal.
A fyddaf yn derbyn unrhyw arian?
Mae’n bosib mewn rhai achosion y bydd cymorth ariannol ar gael drwy’r Awdurdod Lleol ar gyfer plant a aseswyd eu bod mewn angen. Mae’n bosib y bydd hyn yn cynnwys ystod o wasanaethau cefnogi ac mewn achosion eithriadol arian hefyd. Mae’n bosib y bydd rhwydweithiau cefnogi lleol hefyd mewn lle ar gyfer gofalwyr lleol. Fodd bynnag dylai eich trefniant gyda’r rhieni gynnwys sut y byddwch chi’n cyflawni anghenion ariannol y plentyn / plant.
A yw’n bosib i mi hawlio Budd-daliadau am nawdd cymdeithasol ac os felly sut allaf eu derbyn?
Mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio nawdd cymdeithasol megis Budd-dal Plant ac o bosib Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Chwilio am waith os ydych chi eisoes yn derbyn Budd-dal Plant. Cysylltwch â’ch Swyddfa Asiantaethau Budd-daliadau Lleol fydd yn medru rhoi cyngor i chi ar y mater.
Beth ddylai ddigwydd os bydd y plentyn yn gadael fy ngofal?
Bydd yn rhaid i chi ddweud wrth eich Awdurdod Lleol fod y plentyn yn gadael eich gofal. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ddweud paham fod y plentyn yn gadael gan roi enw a chyfeiriad y person fydd yn gofalu ar ôl y plentyn.