Camddefnyddio Sylweddau
Mae Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Ngheredigion yn anelu at leihau’r niwed a achosir i’r unigolyn, ei deulu, ffrindiau a’r gymuned, trwy ddarparu asesiad, rheoli gofal ac amrywiaeth o ymyriadau cymunedol a mynediad at driniaethau cleifion mewnol a phreswyl.
Darparir gwasanaethau gan Gyngor Sir Ceredigion, Awdurdod Iechyd Hywel Dda a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (DDAS), ac mae pob atgyfeiriad at y Gwasanaethau i Oedolion sy’n Camddefnyddio Sylweddau yn cael ei wneud trwy DDAS - 0330 363 9997.
Hefyd, mae’r gwasanaethau cymorth canlynol ar gael:
Barod: Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddol Arbenigol i Bobl Ifanc
Y Samariaid:
- Rhadffôn: 116 123
Beth yw camddefnyddio sylweddau?
Camddefnyddio sylweddau yw parhau i ddefnyddio cyffuriau neu alcohol er gwaethaf y canlyniadau negyddol i’r unigolyn sy’n eu defnyddio, ei ffrindiau, teulu a’r gymuned. Mae modd i bob math o ddefnydd o sylweddau beri problemau iechyd, cymdeithasol neu droseddol.
Y sylweddau a ddefnyddir amlaf yw alcohol, nicotin a chanabis. Mae eraill yn cynnwys cyfnerthyddion fel amffetaminau, opiadau fel heroin a thawelyddion fel faliwm.
Beth sy’n achosi camddefnyddio sylweddau?
Yn aml, mae defnyddio sylweddau’n dechrau pan mae pobl yn ifanc ac o dan ddylanwad ffrindiau a theulu. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio llai wrth iddynt fynd yn hŷn, ond gall fod yn broblem i eraill. Er eu bod ar y cychwyn yn mwynhau’r effeithiau, mae’n gallu mynd yn fwyfwy anodd iddynt fwynhau bywyd heb ddefnyddio sylweddau.
I rai pobl, mae defnyddio sylweddau yn eu helpu i ymdopi ag anawsterau yn eu bywydau, a gall hyn arwain at gynnydd yn eu defnydd o sylweddau. Wedyn, gall defnyddio sylweddau achosi problemau i’r unigolyn, yn ariannol neu yn eu perthnasau ag eraill, sy’n eu hannog i ddefnyddio rhagor, gan greu cylch dieflig.
Mae rhai pobl yn defnyddio sylweddau i reoli poen corfforol neu emosiynol, ac er bod defnyddio sylweddau’n cynnig rhyddhad yn y tymor byr, bydd yna ganlyniadau negyddol yn y pen draw.
Pa broblemau a achosir gan gamddefnyddio sylweddau?
Mae defnydd cynyddol o gyffuriau ac alcohol yn gallu arwain at ddibyniaeth gorfforol a/neu seicolegol sy’n ei wneud yn anoddach i’r unigolyn roi’r gorau i’w defnyddio er gwaethaf y canlyniadau.
Mae camddefnyddio sylweddau’n gallu achosi canlyniadau difrifol iawn i iechyd corfforol a meddyliol yr unigolyn, mae’n gallu chwalu’r teulu, achosi problemau ariannol a digartrefedd, arestio, colli gwaith a marwolaeth mewn ambell achos.
Esboniad o’r Haenau:
- Haen 1 – gwybodaeth a chyngor, sgrinio ac atgyfeirio at driniaeth arbenigol ynghylch cyffuriau, a ddarparir gan arbenigwyr digyffur
- Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed Haen 2 – gwybodaeth a chyngor gan wasanaethau sy’n arbenigo mewn cyffuriau, asesiad blaenoriaethu, atgyfeirio at driniaeth strwythuredig ynghylch cyffuriau, ymyraethau seicogymdeithasol, gwasanaethau lleihau niwed (yn cynnwys cyflenwad nodwyddau) ac ôl-ofal. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig ymyriadau lleihau niwed megis cyfleusterau cyfnewid nodwyddau, cyngor ynghylch chwistrellu’n fwy diogel, gwasanaeth rhoi naloxone a phrofion ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed. Hefyd, mae’n cyfeirio pobl at driniaethau strwythuredig a thriniaethau sy’n canolbwyntio ar adferiad, gan gynnig darpariaeth bersonol a sesiynau grŵp. Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed hefyd yn cynnig cymorth i unrhyw un y mae defnydd rhywun arall o alcohol a/neu gyffuriau yn effeithio arnynt.
- Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol y Gwasanaeth Iechyd Haen 3 – asesiad cyffuriau yn y gymuned a thriniaeth strwythuredig (gan gynnwys presgripsiwn cymunedol, ymyraethau seicogymdeithasol, a rhaglenni dydd). Mae’r tîm hwn yn darparu asesiadau cynhwysfawr a thriniaethau yn seiliedig ar gynlluniau gofal gan gynnwys rhagnodi opiadau yn lle cyffuriau, dadwenwyno alcohol ac opiadau cymunedol, rhoi meddyginiaeth sy’n atal pobl rhag ailddechrau camddefnyddio a chynnig mynediad at wasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbytai.
- Tîm Camddefnyddio Sylweddau - Gofal Cymdeithasol Haen 4 – triniaeth breswyl, fel unedau cleifion mewnol GIG ac unedau adfer yn y sector wirfoddol. Mae’r tîm yn darparu asesiadau cynhwysfawr, cynlluniau gofal a chymorth ac adolygiadau ynghyd â gweithwyr cymorth i gynorthwyo pobl i barhau i fyw’n annibynnol. Ar ben hynny, mae’n cynnig mynediad at ddarpariaeth adsefydlu preswyl ac mae’n mynd i’r afael â phroblemau sy’n cyd-ddigwydd ac anghenion cymhleth o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau.
Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (DDAS) – 0330 363 9997 – confidential@d-das.co.uk - 25 Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth, SY23 2JN & 39 Stryd y Santes Fair, Aberteifi, SA43 1EU. Un pwynt o gyswllt haen 2 ar gael at ddefnydd y sawl sy’n defnyddio cyffuriau ac alcohol, teuluoedd a phobl broffesiynol. Gall yr holl atgyfeiriadau at system trin camddefnydd o sylweddau Dyfed ddod trwy’r gwasanaeth hwn.
Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol Ceredigion (CCDAT) – 01970 636340 – Gorwelion, Aberystwyth. Atgyfeiriadau trwy un pwynt mynediad Cyffuriau ac Alcohol Dyfed. Darpariaeth o driniaethau strwythuredig Haen 3. Mae ymyraethau’n cynnwys rhoi presgripsiwn cyfnewid, dadwenwyno cymunedol, atgyfeirio at wasanaethau Haen 4, a therapi seicolegol a seicogymdeithasol.
Tîm Gofal Cymdeithasol Ceredigion ar Gamddefnyddio Sylweddau – 01545 574000 – Penmorfa, Aberaeron, SA43 0DY. Derbynnir pob atgyfeiriad trwy un pwynt mynediad Cyffuriau ac Alcohol Dyfed. Mae’r tîm yn darparu asesiadau anghenion cymhleth Haen 3 a Thriniaeth Arbenigol Haen 4, ymgynghoriad ar gyfer asiantaethau camddefnyddio sylweddau ac adrannau gwaith cymdeithasol. Asesiadau arbenigol a gwaith cyswllt gydag asiantaethau eraill trwy’r Sir. Darparir gwasanaethau mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru a’r Trydydd Sector.
Gwasanaeth Dewisiadau ‘Drugaid’ - 01554 755779 – mae’n cynnig cymorth, gwybodaeth am atal a lleihau niwed, ac ymyraethau therapiwtig ac ymarferol i blant, pobl ifanc a theuluoedd ynglŷn â’r defnydd o gyffuriau ac alcohol. Mae Dewisiadau’n cyflwyno ymgyrchoedd estyn allan ac yn cynnig hyfforddiant ac ymgynghoriaeth barhaol a chymorth i wasanaethau cyffredinol, y rhai sy’n targedu a rhai arbenigol.
Dan 24/7 - 0808 8082234 - Llinell Gymorth Dwyieithog Am Ddim. Mae galwadau a wneir i rifau ffôn 0800 neu 0808 am ddim ar gyfer yr holl linellau tir a ffonau symudol yn y DU. NI FYDD rhif ffôn DAN24/7 yn ymddangos ar fil wedi eitemeiddio eich cartref.
Mae llawer o adnoddau ar-lein sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth am gyffuriau ac alcohol gan gynnwys ychydig o adnoddau hunangymorth. Dyma rai llefydd defnyddiol i chwilio am wybodaeth:
- Galw Iechyd (NHS Direct)
- Alcohol Concern
- Dan 24/7
- FRANK - 0800 776600
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda