Asesiadau Gofalwyr
Os ydych chi’n ofalwr, mae gennych hawl gyfreithiol i gael asesiad o anghenion gofalwr, ni waeth pa fath o ofal rydych chi’n ei ddarparu na pha mor aml rydych chi’n ei ddarparu.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiad o anghenion gofalwr, darllenwch ganllaw Carers UK ar gael asesiad yng Nghymru o fis Ebrill 2016:
Asesiadau - Canllaw ar gael Asesiad yng Nghymru o fis Ebrill 2016
Ble fydd yr asesiad yn cael ei gynnal?
Gallwch chi gael asesiad dros y ffôn neu, pan fydd amgylchiadau’n caniatáu, yn eich cartref.
Pa mor hir fydd yr asesiad yn para a sut alla i baratoi ar ei gyfer?
Bydd hyn yn dibynnu ar anghenion y gofalwr a bydd yn amrywio o sefyllfa i sefyllfa. Weithiau, gall gymryd ychydig o oriau.
Beth fydd yn digwydd yn yr asesiad?
Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cyflawni’r asesiad o anghenion gofalwr gyda chi wyneb yn wyneb. Gall eich helpu i bennu meysydd lle mae angen cymorth arnoch chi a’ch helpu i ystyried y sefyllfa yn y tymor hir. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth, fel manylion grwpiau cymorth i ofalwyr a sut i gael cyngor am fudd-daliadau.
Beth fydd yn digwydd ar ôl yr asesiad?
Os oes modd i chi gael cymorth mewn meysydd a nodwyd yn yr asesiad, bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i asiantaethau eraill a byddant yn cysylltu â chi.
I ofyn am Asesiad o Anghenion Gofalwr, cysylltwch â Porth Gofal:
Ffôn:
01545 574000
Post:
Porth Gofal
Llawr Cyntaf, Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE
Oriau Agor:
- Dydd Llun i ddydd Iau: 08.45 - 17.00
- Dydd Gwener: 08.45 - 16.30