Cymorth i Ofalwyr
Mae gofalwyr di-dâl yn gofalu am ffrindiau neu aelodau o’r teulu na allant ymdopi ar eu pen eu hunain oherwydd salwch, iechyd gwael, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed i rywbeth.
Weithiau mae gofalwyr yn byw gyda’r person y maent yn gofalu amdano, ond gall gofalwyr hefyd ddarparu cymorth o bell.
Gall gofalwyr di-dâl fod o unrhyw oedran, gelwir gofalwyr dan 18 oed yn ofalwyr ifanc.
Mae rhieni sy’n ofalwyr yn gofalu am blant ag anabledd neu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd.
Nid yw pobl sy’n gofalu am blant heb anabledd neu sy’n gweithio ym maes gofal yn cael eu hystyried yn ofalwyr di-dâl.
Ydych chi eisiau cael yr holl newyddion diweddaraf i ofalwyr di-dâl?
Os felly, beth am ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr AM DDIM?
Byddwch yn cael:
- Cylchgrawn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr drwy’r post neu drwy e-bost
- Gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau a chymorth
- Gwybodaeth am ddigwyddiadau lleol
- Gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi perthnasol
Ymunwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr
Gallwch hefyd ddod o hyd i’r holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf ar ein tudalen Facebook: