Skip to main content

Ceredigion County Council website

Atal Cwmpiadau

Wrth i ni fynd yn hŷn, mae risg o gael anaf difrifol yn cynyddu ond gall yr ofn o gwympo hefyd gyfyngu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau.

Isod cewch wybodaeth am sut i leihau’r risg:

  • gwisgwch esgidiau/sliperi sy’n ffitio’n dda ac sydd â gwadn da
  • sicrhewch fod eich grisiau wedi eu goleuo’n dda a bod yna reiliau neu ganllaw grisiau
  • symudwch rygiau neu defnyddiwch rygiau sydd â chefn di-slip yn unig
  • trefnwch gelfi fel nad ydynt yn eich ffordd pan fyddwch yn cerdded
  • ceisiwch gadw mannau lle rydych yn cerdded, yn enwedig grisiau, yn glir ac yn daclus
  • defnyddiwch fat di-slip yn y bath neu’r gawod
  • ystyriwch osod canllawiau ychwanegol ar y grisiau ac yn yr ystafell ymolchi
  • cadwch bethau rydych yn eu defnyddio’n rheolaidd mewn mannau sy’n hawdd eu cyrraedd ac os oes rhaid i chi gyrraedd rhywbeth ar lefel uwch, defnyddiwch ysgol risiau gadarn
  • cadwch olau wrth ymyl eich gwely er mwyn i chi fedru ei droi ymlaen os oes rhaid i chi godi yn ystod y nos
    os oes gennych gymhorthion cerdded, sicrhewch fod y rwber (sydd ar waelod y cymhorthydd) mewn cyflwr da- gallwch gael rwber newydd heb orfod prynu cymhorthydd cerdded newydd
  • ystyriwch gael crogdlws sydd â larwm fel eich bod yn gallu galw am rywun os ydych yn cwympo. Os oes gennych un eisoes, sicrhewch eich bod yn ei wisgo ar bob adeg

Iechyd

  • gwnewch yn siŵr eich bod yn cael prawf llygaid yn rheolaidd
  • gwiriwch eich pwysedd gwaed gyda’ch Meddyg Teulu yn enwedig os ydych yn cwympo wrth i chi godi o’r gwely neu o gadair
  • os ydych yn cael problemau gyda’ch symudedd, siaradwch â’ch Meddyg Teulu
  • bwytewch yn iachus a gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd. Mae gweithgareddau sy’n gwella cryfder ynghyd ag ymarferion cydbwysedd yn gallu eich helpu i oresgyn anystwythder os ydych yn dioddef o boen yn y cymalau
  • profwch eich clyw – gall hylif yn eich clust achosi rhai problemau cydbwysedd

Beth yw Gofal drwy dechnoleg?

Galluogi Gofal drwy dechnoleg yw’r defnydd a wneir o dechnoleg er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain, gan gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel. Enghraifft o hyn yw cael ‘lifeline’ sef botwm y gellir ei wasgu i alw am gymorth - caiff ei wisgo fel pendant.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Gofal drwy dechnoleg ewch i tudalen Galluogi Gofal drwy Dechnoleg (TEC).

Gwybodaeth Pellach

Mae gan y dolenni canlynol ragor o wybodaeth am atal cwympiadau, ac er bod rhai o’r gwefannau’n cael eu hanelu at bobl hŷn, gall y wybodaeth sy’n cael ei darparu fod yn berthnasol i bawb: