Perthnasoedd Teuluol
Mae gwrthdaro rhwng rhieni yn rhan normal o berthnasoedd. Yn wir, mae gweld sut y mae eu rhieni yn anghytuno yn bwysig iawn i blant. Fodd bynnag, pan fydd plant yn dyst i wrthdaro cyson a dwys rhwng rhieni, ac a gaiff ei ddatrys mewn ffordd wael, gall hyn gael effaith niweidiol a hirdymor arnynt. Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n cael anawsterau mewn perthynas.
Perthnasoedd
Mae bod mewn perthynas hapus ac iach yn swnio fel rhywbeth hawdd efallai, ond mae'n naturiol bod pobl yn newid fel unigolion, yn enwedig pan fydd bywyd yn newid o'ch cwmpas. Mae bywyd wedi bod yn arbennig o heriol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae hi mor bwysig cael perthynas iach a chefnogol a fydd yn eich galluogi chi a'ch teuluoedd i fyw bywyd gwerth chweil er mwyn i blant wireddu eu potensial llawn.
Mae'n bwysig bod yn glir ynghylch a ydych yn dymuno datrys gwrthdaro o fewn eich perthynas neu a ydych chi'n ystyried gwahanu.
Mae gwrthdaro rhwng rhieni a cham-drin domestig yn ddau beth ar wahân, ond mae ystyried a yw eich perthynas yn un sy'n cynnwys cam-drin neu ai perthynas sydd mewn cyflwr gwael yw hi, yn gallu bod yn anodd. Fel canllaw cyffredinol, os yw eich perthynas gyda'ch partner, eich cyn bartner neu aelod o'ch teulu yn un gamdriniol:
- byddant yn dymuno meddu ar yr holl bŵer a'r rheolaeth
- efallai y byddwch yn eu hofni
- bydd y gamdriniaeth wedi digwydd fwy nag unwaith, neu byddwch yn sylwi ar batrymau
Cyrsiau a chymorth y gallent fod o fudd i chi:
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd isod ewch i Ddewis Cymru.
Mae Helpu fi, Helpu Ti yn grŵp rhith ar ffurf chwe sesiwn i rieni plant 0 – 5 oed sy'n ceisio cryfhau lles rhieni gan ddefnyddio technegau fel gosod nodau, ymwybyddiaeth ofalgar ac ymlacio
Mae Neilltuo Amser i Chi yn grŵp rhith ar ffurf chwe sesiwn i rieni plant 5 – 8 oed sy'n ceisio cryfhau lles rhieni gan ddefnyddio technegau fel gosod nodau, ymwybyddiaeth ofalgar ac ymlacio
Mae Cysylltiadau Teuluol yn gwrs ar ffurf deg sesiwn sy'n helpu oedolion i ddeall a rheoli teimladau ac ymddygiad, ac i fod yn fwy cadarnhaol a meithringar yn eu perthnasoedd gyda phlant a'i gilydd.
Gweminar yw Rhoi'r Bai ar yr Ymennydd er mwyn cynorthwyo dealltwriaeth o ddatblygiad pobl ifanc, a chryfhau sgiliau a strategaethau er mwyn rheoli nodweddion agored i niwed mewn perthynas ag iechyd rhywiol, sylweddau a pherthnasoedd.
OnePlusOne
Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu mynediad i gyrsiau i helpu i gryfhau perthnasoedd a theuluoedd. Fe'u crëwyd gan arbenigwyr perthynas o'r elusen OnePlusOne. Defnyddiwch y ddolen isod i gael gwybod mwy ac i gofrestru er mwyn cael mynediad am ddim i'r cyrsiau digidol hyn.
- Dadlau'n Well
- Chi, Fi a Babi Hefyd
- Gwneud pethau'n Iawn i Blant
Tudalen we adnoddau Ceredigion OnePlusOne (Saesneg yn unig)
Mae Ceredigion yn defnyddio'r dull Arwyddion Diogelwch a Lles yn ein holl waith. Mae hyn yn ein helpu i nodi datrysiadau posibl yn hytrach na chanolbwyntio ar broblemau. Yn ogystal, mae'n cynorthwyo aelodau'r teulu i nodi a gweithredu'r camau y byddant yn cyflawni eu nodau.
- Rydym yn gweithio gyda phobl fel partneriaid
- Rydym yn cymryd camau i ddiogelu pobl rhag esgeulustod a niwed
- Rydym yn cynorthwyo pobl i ddatblygu a chynnal perthnasoedd teuluol a phersonol iach
- Rydym yn gweithio gyda theuluoedd i gynorthwyo eu lles cyffredinol a sicrhau y bodlonir eu hanghenion
Dolenni gwe defnyddiol ar gyfer Teuluoedd a Gweithwyr Proffesiynol
- Both Parents Matter Cymru (Saesneg yn unig)
- Dewis Cymru
- Relate Cymru
- Gwasanaethau Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru
- Click - Mae Perthnasoedd yn Bwysig (Saesneg yn unig)
- Magu Plant gyda'n Gilydd
- Parent Talk - Rhianta a Pherthnasoedd (Gweithredu dros Blant) (Saesneg yn unig)
- Family Separation Hub (Saesneg yn unig)
- Mamau MATCH - Mamau ar wahân i'w plant (Saesneg yn unig)
- Gwahanu ac ysgaru - NSPCC (Saesneg yn unig)
- Gwahanu neu ysgaru: yr hyn y mae angen i chi ei wneud (Saesneg yn unig)
- Helpu eich plentyn trwy ysgariad - gwefan Iechyd Plant (Saesneg yn unig)
- Helpu pobl ifanc yn eu harddegau i ymdopi gydag ysgariad - gwefan DivorceMag (Saesneg yn unig)
- Delio gydag ysgariad - gwefan Safe Teens (Saesneg yn unig)
- Delio gydag ysgariad rhieni fel rhywun yn eich arddegau - Ein gwefan Dewin Teuluol (Saesneg yn unig)
- Cyngor ar Bopeth - Teuluoedd yn Gwahanu
- Gwefan Family Lives (Saesneg yn unig)
- Family Law Assistance - gwefan Mckenzie Friends (Saesneg yn unig)
- Helping Families Helping Children - gwefan Family Rights Group (Saesneg yn unig)
Deunyddiau defnyddiol i Deuluoedd a Gweithwyr Proffesiynol
- Llyfrau er mwyn helpu plant i ddall ysgariad (2-13 oed) (Saesneg yn unig)
- Llyfrau lluniau am ysgariad - gwefan Little Parachutes (Saesneg yn unig)
- Ffilmiau cadarnhaol am ysgariad - gwefan 2houses (Saesneg yn unig)
- SPLIT - clip am ysgariad - YouTube (Saesneg yn unig)
- Sesame Street - ysgariad - YouTube (Saesneg yn unig)
- 12 o'r llyfrau gorau er mwyn helpu plant i ymdopi gydag ysgariad - gwefan Stowe Family Law (Saesneg yn unig)
- Llais y plentyn - Ysgariad - YouTube (Saesneg yn unig)
- Cyd-rianta Llwyddiannus - YouTube (Saesneg yn unig)
- Gwrthdaro rhwng rhieni: yr effaith ar blant - YouTube (Saesneg yn unig)
- Llyfrau i helpu plant gyda'u hemosiynau - reading-well.org
- Llyfrau i helpu plant gydag emosiynau - Awen Teifi
- Llyfrau i helpu gydag emosiynau - meddwl.org
Cynllun Talebau Cyfryngu y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ) wedi datblygu cynllun talebau cyfryngu, lle y cynigir cyfaniad o hyd at £500 fesul achos/teulu i dalu costau cyfryngu achos trefniadau plentyn, gan annog pobl i geisio datrys eu hanghydfodau y tu allan i'r llys pan fo hynny'n briodol.
Diben y cynllun yw hyrwyddo manteision cyfryngu a chyfeirio materion i ffwrdd o'r llysoedd teuluol pan fo hynny'n briodol. Bydd y cynllun yn cynnig cyfraniad ariannol o hyd at £500 y teulu i gyfranogwyr cyfryngu, tuag at eu costau cyfryngu. Gwneir y taliad hwn i ddarparwyr gwasanaethau cyfryngu yn uniongyrchol gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol (FMC), sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran MoJ.
Cyn cadarnhau i gleientiaid bod taleb ar gael, rhaid i gyfryngwyr ofyn am dalebau i gael eu neilltuo, ac mae'n rhaid iddynt gael cyfeirnod achos gan FMC – diben hyn yw sicrhau y caiff talebau eu neilltuo pan fo cronfeydd ar gael yn unig. Gellir gweld gwybodaeth lawn am y cynllun talebau ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol (Saesneg yn unig).
Sut allwn ni helpu?
Gall y gwasanaethau canlynol eich helpu chi os ydych chi'n cael anawsterau yn eich perthynas. Mae'n bwysig adnabod a ydych chi'n dymuno datrys gwrthdaro yn eich perthynas neu a ydych chi'n ystyried gwahanu.
Gallwn gynnig:
- Mynediad i sesiynau cwnsela am ddim i gyplau
- Mynediad i glinig am ddim er mwyn cael cyngor cyfreithiol cychwynnol
- Gwybodaeth a chyngor ynghylch yr effaith y gall gwrthdaro rhwng rhieni ei chael ar blant
- Cymorth gan ein staff sydd wedi cael eu hyfforddi i weithio gyda theuluoedd ar berthnasoedd rhwng rhieni lle y gwelir gwrthdaro
- Gwybodaeth a chyngor ar gyfer gweithwyr proffesiynol eraill
- Cyrsiau a gweminarau i rieni