Cofrestr Plant a Anabledd
Tîm Anableddau Plant - Pwy ydym ni?
Mae’r Tîm Anableddau Plant (TAP) yn dîm Gofal Cymdeithasol arbenigol sy’n cynnwys
- Gweithwyr Cymdeithasol,
- Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol,
- Gweithwyr Allweddol Addysg; a
- Gweithwyr Cefnogi.
Ffocws y Tîm bydd:
- Gweithio gyda phlant y mae eu teuluoedd yn byw yng Ngheredigion lle y mae caniatâd wedi ei roi er mwyn i ni ymwneud â hwy
- Gweithio mewn partneriaeth â phlant, teuluoedd a sefydliadau perthnasol er mwyn galluogi plant i gyflawni’r amcanion a glustnodwyd yn dilyn asesiad
- Sicrhau y caiff lles y plentyn ei ddiogelu a’i hyrwyddo gan y rheiny sy’n darparu gwasanaethau.
- Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn cynorthwyo â lleihau effaith anabledd y plentyn gan roi’r cyfle iddynt fyw bywyd yn llawn.
Mae’r Tîm Anableddau Plant yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag:
- Anableddau Dysgu Lluosog / Oedi mewn datblygiad,
- Awtistiaeth (lle y bu diagnosis meddygol),
- Anableddau Corfforol, e.e. plant sydd angen defnyddio cyfarpar arbenigol,
- Nam ar y clyw a nam ar y golwg,
- Cyflyrau meddygol ac iechyd sydd angen ystod o gefnogaeth iechyd,
Gall y Tîm fod yn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei asesu ag unrhyw un o’r cyflyrau uchod, ac
- Sydd wedi dioddef neu mewn risg o ddioddef niwed sylweddol neu
- Lle y mae gan yr anabledd a glustnodwyd effaith andwyol sylweddol ac hirdymor ar allu y plentyn / person ifanc i ymgymryd â gweithgareddau dyddiol
Cofrestr Plant ag Anableddau
Beth yw’r Gofrestr yma?
Bydd Cofrestr Plant ag Anabledd yn cofnodi manylion plant a phobl ifanc yng Ngheredigion sydd ag anableddau corfforol neu anableddau dysgu.
Mae’r Gofrestr yn ceisio casglu gwybodaeth ar blant a phobl ifanc o dan 18 oed.
Beth yw’r manteision o gofrestru eich plentyn?
Gallwch:
- Dderbyn gwybodaeth ar wasanaethau i bobl ifanc, ar eich cyfer chi a/ neu eich plentyn
- Gael gwybod mwy am unrhyw ostyngiadau neu gynlluniau taleb caiff eu lawnsio yn y Sir / rhanbarth ; a,
- Dweud eich dweud a dylanwadau ar wasanaethau yng Ngheredigion.
Defnyddir y wybodaeth yma hefyd er mwyn:
- Cynorthwyo Cyngor Sir Ceredigion County, gwasanaethau iechyd lleol a darparwyr gwasanaethau i gynllunio gwasanaethau’n briodol yn y Sir;
- I rieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc gael llais a sicrhau bod y Cyngor a gwasanaethau eraill yn ymwybodol o’ch anghenion a’r galw am wasanaeth yn y Sir; a
- Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i blant a phobl ifanc ag anabledd neu anghenion arbennig yn ogystal â’u rhieni a / neu gofalwyr.
Asesiad
O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i asesu plentyn lle mae’n ymddangos bod angen gofal a chefnogaeth arnynt; yn ogystal â’r ofal a’r gefnogaeth a ddarperir gan deulu’r plentyn.
Fodd bynnag nid oes angen cefnogaeth / gwasanaethau arbenigol ar bob plentyn sydd ag anabledd. Mae’n bosib y bydd plant a theuluoedd yn derbyn asesiadau a chefnogaeth drwy ein gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar gyfer plant a theuluoedd.
Ar y cychwyn gwneir cyfeiriadau i’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid penodol ar CLIC, ar 01545 574000 sy’n cysylltu â’n timau Plant a Theuluoedd ar draws yr Is-adran Llesiant Gydol Oes
Meini Prawf Cymhwysedd
O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae plentyn anabl yn blentyn sydd ag amhariad corfforol neu feddyliol sydd ag effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r plentyn hwnnw i ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Caiff effaith hirdymor ei ddiffinio fel cyflwr sydd wedi parhau am o leiaf 12 mis neu’n debygol o barhau am weddill oes y plentyn.
Bwriedir defnyddio’r Meini Prawf Cymhwysedd yma fel canllaw i’n cynorthwyo wrth glustnodi pa blant sydd angen asesiad arbenigol a chefnogaeth gan y Tîm Anableddau Dysgu.
Sut i wneud cais i'r gofrestr
Cliciwch ar y ddolen isod i gofrestru manylion eich plentyn.
Os nad ydych yn gallu cyrchu'r ddolen, cysylltwch â Clic, ein Canolfan Gyswllt gofal cymdeithasol, ar 01545 574000.