Skip to main content

Ceredigion County Council website

Seibiannau Byr

Gall bod yn ofalwr fod yn flinedig yn emosiynol ac yn gorfforol. Nid oes llawer o ofalwyr yn ystyried eu lles eu hunain ac efallai y byddant yn dioddef o straen o ganlyniad i hyn.

Mae cymryd saib o rôl gofalu yn hanfodol, hyd yn oed am ychydig oriau yn unig.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gymryd saib o’ch rôl fel gofalwr, o ychydig oriau i ychydig ddyddiau, ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Dim ond chi fydd yn gwybod beth sydd orau i chi.

Gallai rhai enghreifftiau o seibiannau gynnwys:

  • eistedd yn eich gerdd neu ddarllen llyfr
  • mynd i’r gampfa neu fynd i siopa am ddiwrnod neu am y prynhawn
  • ymweld â ffrindiau neu deulu ac aros dros nos neu am benwythnos
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp ar gyfer gofalwyr

Am ragor o wybodaeth a chyngor gweler tudalen Gofalwyr Ceredigion Carers.

Gofal Seibiant

Cynigir gofal seibiant i'n cwsmeriaid am gyfnod penodol o amser (yn dibynnu ar lefel yr angen) mewn lleoliad priodol neu drwy daliad uniongyrchol. Y nod yw rhoi cyfnod o orffwys i'r unigolyn, a'i ofalwr, a allai fod yn ei chael hi'n anodd cynnal eu hannibyniaeth lawn gartref, neu yn eu lleoliad gofal.
Darperir seibiant mewn gwahanol ffyrdd, fel mewn lleoliad preswyl, trwy daliadau uniongyrchol neu drwy gymorth uniongyrchol yn unig. Bydd yr angen/oriau a nodwyd yn cael eu nodi drwy gynllun gofal a chymorth a bydd y gweithiwr cymdeithasol yn cefnogi gweithredu'r angen hwn.

Penwythnos DASH i ffwrdd

Mae Comisiwn Cyngor Sir Ceredigion DASH yn ddarparwr trydydd sector lleol sy’n hwyluso darpariaeth Seibiant Byr preswyl ar gyfer plant ag anableddau a'u teuluoedd. Mae DASH yn cefnogi plant yn Nhŷ Glyn, byngalo pwrpasol wedi'i logi ger Aberaeron. Mae DASH wedi'i gofrestru gyda AGC fel cartref plant yn y lleoliad hwn. Mae staff DASH a'r tîm Gweithwyr Cymdeithasol o anableddau yn cydlynu penwythnosau ac yn sicrhau bod gofynion AGC yn cael eu dilyn.

Gofal maeth (gwyliau byr)

Hoffech chi gefnogi plentyn anabl a'u teulu?

Oes gennych chi brofiad neu ddiddordeb mewn cefnogi plentyn ag anabledd?

Medru darparu cyfleoedd a chefnogaeth gwerthfawr i blentyn anabl?

Oes gennych ystafell sbâr?

Yna cysylltwch â’n tîm maethu ar y rhif ffôn 01545 574000 neu e-bostiwch fostering@ceredigion.gov.uk.