Skip to main content

Ceredigion County Council website

Awtistiaeth

Beth yw awtistiaeth?

Mae awtistiaeth yn wahaniaeth niwrofiolegol. Mae pobl awtistig yn profi gwahaniaethau o ran rhyngweithio, cyfathrebu cymdeithasol a phatrymau cyfyngedig ailadroddus o ymddygiad a diddordebau. Yn aml maent yn canolbwyntio’n ddwys ar bynciau sy'n ddiddorol iddynt. Ymddygiad cyfyngedig fyddai hyn i bobl nad ydynt yn awtistig.

Mae'r meysydd hyn o wahaniaeth yn cael eu profi gan bob person awtistig i ryw raddau, ond gall eu hanghenion unigol a lefel y cymorth sydd ei angen, amrywio'n sylweddol. Efallai y bydd gan rai anawsterau dysgu dwys a’i chael hi'n anodd cyfathrebu yn y ffordd ddisgwyliedig, h.y. cyfathrebu geiriol, lle nad oes anawsterau amlwg gydag eraill gyda iaith.

Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi, er ein bod yn priodoli siarad fel y prif fodd o gyfathrebu, mae llawer o bobl awtistig nad ydynt yn siarad yn gallu cyfathrebu'n dda iawn gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu amgen. Nid yw'r sbectrwm awtistiaeth yn llinol, a bydd pob person awtistig unigol yn unigryw o ran ble y gallent fod o fewn y sbectrwm hwn a gall hyn hefyd newid o ddydd i ddydd.

Gall Gwasanaeth Llesiant Gydol Oes Cyngor Sir Ceredigion gynnig cyngor, atgyfeiriadau ac asesiadau Gofal a Chymorth i bobl Awtistig, y rheini sy’n aros am ddiagnosis, a’u gofalwyr a’u teuluoedd sydd angen cymorth, yn seiliedig ar eu hanghenion.

I gysylltu, ffoniwch Gyngor Sir Ceredigion ar 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

Bydd aelod o’r tîm yn eich cyfeirio at ein Gwasanaeth Brysbennu, Porth Gofal, a fydd yn cyfathrebu â chi drwy’r dull cyswllt sydd orau gennych i drafod sut y gallwn helpu.

Gwybodaeth am ddiagnosis i oedolion

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru yn wasanaeth diagnostig amlddisgyblaethol arbenigol ar gyfer oedolion yr amheuir bod ganddynt Awtistiaeth yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Maent yn gweithio o fewn Argymhellion Cenedlaethol i ddarparu gwasanaeth cyson ledled Cymru.

Cynhelir Asesiadau Diagnostig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru.

Mae’r broses yn dechrau yn dilyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol, neu hunan-atgyfeiriad.

Gwybodaeth am ddiagnosis i blant

Y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol

Mae’r Tîm Niwroddatblygiadol wedi’i leoli yn Adeilad 1, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3HB.

Eu rhif ffôn yw 01267 283077 neu gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ar childASD.Referrals@wales.nhs.uk.

Mae’r gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn wasanaeth diagnostig amlddisgyblaethol arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 18 oed yr amheuir bod ganddynt Awtistiaeth sy’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, neu sydd wedi’u cofrestru â phractis meddyg teulu BIPHDd yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, neu sir Benfro.

Maent yn gweithio o fewn Argymhellion Cenedlaethol i ddarparu gwasanaeth cyson ledled Cymru.

Mae’r Tîm Niwroddatblygiadol yn derbyn atgyfeiriadau gan weithiwr iechyd proffesiynol sy’n hysbys i’r plentyn neu’r person ifanc, gyda chaniatâd rhiant neu ganiatâd y person ifanc, a thystiolaeth wedi’i dogfennu’n glir sy’n amlygu pryder sy’n gysylltiedig â chyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio cymdeithasol, ac ymddygiadau cyfyngedig neu ailadroddus.