Anableddau Dysgu
Ynghylch Tîm Anabledd Gydol Oes:
Tîm Arbenigol sy'n gweithio ar draws Ceredigion gydag oedolion a phlant ag anableddau yw Tîm Anabledd Ceredigion.
Mae'r tîm yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymorth. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr iechyd yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu cymorth, cyngor ac ymyrraeth therapiwtig i oedolion a phlant sy'n byw yng Ngheredigion sydd ag anabledd.
Nod y Tîm yw eich cefnogi chi neu'ch perthynas i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth, eu diogelwch a'u lles lle bynnag y bo hynny'n bosibl yn eu cymuned eu hunain.
Mae'r Tîm yn gweithio gydag oedolion a phlant ag anableddau a/neu awtistiaeth a lle mae effaith eu hanabledd yn
- Sylweddol
- Hirdymor
- Effeithio ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd
Bydd aelod o'r tîm yn cynnal asesiad anghenion, sy'n cynnwys y canlynol:
- Edrych ar eich amgylchiadau
- Asesu’r canlyniadau personol yr ydych eisiau eu cyflawni
- Edrych ar y rhwystrau sydd gennych i’w goresgyn er mwyn cyflawni’r canlyniadau a nodwyd
- Nodi unrhyw risgiau i chi os na chyflawnir eich canlyniadau personol
- Adnabod eich cryfderau a'ch galluoedd
Bydd yr asesiad yn sgwrs rhyngoch chi a/neu eich teulu a'r swyddog gofal cymdeithasol i ddod o hyd i’r modd y gellir diwallu eich anghenion gofal a chymorth. Rhaid i'r asesiad nodi atebion a sut y byddant yn cael eu cyflawni. Rhaid ystyried pob un o'r pum elfen a restrir uchod yn yr asesiad, ac o hyn, bydd penderfyniad ynghylch pa anghenion sy'n gymwys i dderbyn gofal a chymorth gan y Gwasanaeth Anabledd.
I gael mynediad at ein gwasanaeth bydd angen i chi gysylltu â CLIC trwy ffonio 01545 570881 neu drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.