Tanygraig, Llanfarian
Hysbysiad Cyhoeddus Trwydded Safle ar gyfer cynnal Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil.
Tanygraig, Llanfarian
Mae D Williams yn gwneud cais i drwyddedu Tanygraig, Llanfarian, Aberystwyth, SY23 4NN ar gyfer cynnal Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil.
Gellir gweld y cais a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa arferol yng Nghanolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE hyd oni chaiff y cais ei benderfynu neu’i dynnu’n ôl.
Gall unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu'r cais hwn anfon hysbysiad ysgrifenedig o'i gwrthwynebiad at Rhiannon Pugh, Cynrychiolydd y Swyddog Priodol, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE ymhen 21 niwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 18fed Ebrill 2025
Dyddiad cau i wrthwynebiadau: 9fed Mai 2025