Cynllunio ac Ecoleg
Mae gan Gyngor Sir Ceredigion gyfrifoldeb i warchod, cadw a gwella’r amgylchedd naturiol wrth ystyried datblygiadau arfaethedig, ceisiadau cynllunio a newidiadau i ddefnydd tir. Mae amgylchedd naturiol gwych Ceredigion yn elfen hanfodol o gymeriad y sir a’I heconomi twristiaeth.
Mae deddfwriaeth Ewrop a’r Deyrnas Unedig, a chynlluniau cenedlaethol a lleol yn rhoi cyfrifoldebau ar yr ACLl sy’n cynnwys gwarchod Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, rhywogaethau a warchodir gan y Deyrnas Unedig a Safleoedd. Mae’r lefel o warchodaeth sy’n cael ei rhoi i’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hyn yn amrywio ond y mae’n ystyriaeth berthnasol y dylid ystyried eu gwarchodaeth ar bob cam o’r broses gynllunio a datblygu.
Mae Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion (2007-2022) (CDLl) yn darparu polisïau lleol ar gyfer penderfynu ceisiadau datblygu yng Ngheredigion. Mae holl ethos y CDLl wedi'i seilio ar ddatblygu cynaliadwy sy'n cynnwys dull rhagweithiol yr ALl tuag at gael amgylchedd naturiol o safon uchel.
Mae sawl polisi yn gwneud cyfraniad at ddiogelu'r amgylchedd ond y prif bolisïau ar gyfer cadwraeth natur yw:
- DM14: Cadwraeth Natur a Chysylltedd Ecolegol
- DM15: Cadw Bioamrywiaeth Leol
- DM16: Safleoedd Daearegol Pwysig Rhanbarthol
Mae polisïau CDLl perthnasol eraill yn cynnwys:
- S01: Twf Cynaliadwy
- DM06: Dylunio a Gwneud Lleoedd o Safon Uchel
- DM10: Dylunio a Thirlunio
- DM20: Gwarchod Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd
- DM22: Gwarchod a Gwella'r Amgylchedd yn Gyffredinol
Gan fod arolwg ac asesiad bioamrywiaeth yn ofyniad cenedlaethol o dan y broses 1APP, bydd ceisiadau heb arolwg ac asesiad bioamrywiaeth priodol (boed yn arfarniad ecolegol ychwynnol, arolwg ystlumod ac ati) sy'n gofyn am un, neu os yw'r adroddiad a gyflwynir yn argymell arolwg pellach ac nid yw wedi'i gwblhau, yn cael eu hannilysu yn y cam ymgeisio. Gall y cais gael ei annilysu hefyd yn dilyn y broses o ymgynghori ag Ecolegydd Cynllunio yr ALl os oes angen gwneud gwaith arolwg pellach neu os yw'r adroddiadau a gyflwynir yn annigonol.
Gorau po gynted y bydd datblygwyr/tirfeddianwyr yn cysylltu â'r ALl am gyngor oherwydd rhaid integreiddio ecoleg yn y datblygiad arfaethedig o'r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau'r effaith leiaf a bod y cyfleoedd mwyaf wedi cael eu cymryd i wella bywyd gwyllt. Bydd hyn hefyd yn lleihau'r oedi ar gyfer ceisiadau yn ystod y broses ymgeisio.
Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth am gynllunio ac ecoleg:
- Nodyn Cyngor Technegol 5; Cynllunio a Chadwraeth Natur (2009) (Saesneg yn unig)
- CDLI Ceredgion Canllawiau Cynllunio Atodol – Cadwraeth Natur
- Taflen gymorth ystumlod a datblygu
I gael mwy o wybodaeth am faterion ecolegol mewn perthynas â chynllunio a datblygu, cysylltwch â’r:
Ecolegydd Cynllunio
Neuadd y Sir
Aberaeron
SA46 0AT
01545 572147 / 07966018107