Cynllun Tai Fforddiadwy - Tai Gostyngiad ar Werth
Fel rhan o’r ceisiadau cynllunio ar gyfer Datblygiadau Tai mae gofyniad i ddarparu canran o dai fforddiadwy, lle bo hynny’n ddichonadwy yn ariannol.
Un math o dai fforddiadwy y gellir ei ddarparu yw rhai “Gwerthu ar Ostyngiad”. Gyda’r math hwn o dai, fel arfer mae gostyngiad o 30% o’r pris ar y farchnad agored adeg gwerthu’r eiddo.
Mae 3 maen prawf cymhwysedd ar gyfer prynu a meddiannu tai a werthir ar ostyngiad:
1. Ni all yr ymgeisydd gael morgais ar gyfer 10% yn fwy na phris gostyngol yr eiddo
- e.e. os mai’r pris gostyngol yw £100,000 er mwyn bod yn gymwys rhaid nad yw’r person yn gallu cael morgais am £110,000 neu fwy. Bydd hefyd angen i ymgeiswyr dalu am unrhyw flaendal y mae’r cwmni morgais yn gofyn amdano
2. Cysylltiad Lleol
- Mae’n ofynnol bod yr ymgeisydd wedi byw am gyfnod yng Ngheredigion neu mewn ardal cyngor cymuned / tref cyffiniol (neu gyfuniad o’r ddau) am gyfnod di-dor o 5 mlynedd (mae rhai eiddo hŷn yn gofyn am breswyliaeth ddi-dor o 10 mlynedd yn ystod y 20 mlynedd ddiwethaf yng Ngheredigion yn unig)
NEU
- Mae angen i’r ymgeisydd fyw yng Ngheredigion i roi gofal sylweddol i berthynas agos neu i dderbyn gofal sylweddol gan berthynas agos sydd wedi byw yng Ngheredigion neu mewn ardal cyngor cymuned / tref cyffiniol (neu gyfuniad o’r ddau) am gyfnod di-dor o 5 mlynedd (mae rhai eiddo hŷn yn gofyn am breswyliaeth ddi-dor o 10 mlynedd yn ystod y 20 mlynedd ddiwethaf yng Ngheredigion yn unig) ac ni all eiddo’r berthynas (naill ai fel y mae neu o’i ymestyn) gyflawni anghenion yr aelwyd gyfunedig
NEU
- Mae’r ymgeisydd wedi’i gyflogi yng Ngheredigion fel gweithiwr allweddol llawn-amser (37 awr) yn barhaol. At y dibenion hyn, diffinnir gweithiwr allweddol fel a ganlyn:
- Athro mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu goleg chweched dosbarth;
- Nyrs neu weithiwr iechyd arall medrus y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
- Heddwas;
- Gweithiwr i’r gwasanaeth prawf;
- Gweithiwr cymdeithasol;
- Seicolegydd addysg;
- Therapydd galwedigaethol a gyflogir gan yr awdurdod lleol;
- Swyddog tân;
- Rhywun arall y mae ei gyflogaeth yn cyflawni rôl bwysig yn narpariaeth y gwasanaethau allweddol yng Ngheredigion lle bu’n anodd recriwtio o fewn y Sir. Byddai angen cytuno ar hyn gyda’r Awdurdod Lleol a byddai angen darparu tystiolaeth recriwtio
3. Disgwylir i’r ymgeisydd feddiannu’r eiddo fel ei unig breswylfan
- a bydd angen iddo gadarnhau nad yw’n berchen ar eiddo preswyl arall
Os ydych yn gwneud cais am eiddo fforddiadwy ar y cyd dim ond un ymgeisydd sydd angen bod yn gymwys ar gyfer meini prawf Preswyliad Lleol/Gweithiwr Allweddol/Gofalwr. Bydd angen i'r ddau fod yn gymwys ar gyfer y meini prawf ariannol a deiliadaeth.
Bydd y math hwn o dai’n parhau’n fforddiadwy am oes gyda’r meini prawf cymhwyso uchod.
Fel arfer caiff Tai a Werthir ar Ostyngiad eu hysbysebu drwy asiantaethau tai lleol.
Ffurflenni Cais
Cwblhewch ffurflen gais ac anfonwch y dystiolaeth briodol a nodir isod at ldp@ceredigion.gov.uk. Gwiriwch fod gennych y fersiwn cywir o'r ffurflen gan fod un ar gyfer Eiddo Disgownt ar Werth a gymeradwywyd dan y Cynllun Datblygu Unedol (CDU) (meini prawf preswylio yw 10 mlynedd ddi-dor yng Ngheredigion yn yr 20 mlynedd diwethaf) a'r llall ar gyfer Gostyngiad Eiddo ar Werth a gymeradwywyd o dan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) (meini prawf preswylio yw 5 mlynedd ddi-dor yng Ngheredigion neu’r Cynghorau Tref/Cymuned cyffiniol unrhyw bryd yn ystod eich bywyd). Os nad ydych yn siŵr pa ffurflen i'w llenwi, cysylltwch â ni gyda chyfeiriad y tŷ yr ydych yn gwneud cais amdano fel y gallwn rhoi cyngor.
Y dogfennau sydd eu hangen i brofi eich cymhwysedd yw: