Galwad am Safleoedd Ymgeisiol: 29 Mehefin - hanner dydd 27 Medi 2018 - Galwad wedi Cau
Beth yw'r cyfnod ymgynghori ynghylch Safleoedd Ymgeisiol?
Fel rhan o'r gwaith o baratoi ar gyfer llunio'r amnewid Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mae'r Cyngor yn gwahodd datblygwyr, darparwyr gwasanaethau, perchnogion tir ac eraill sydd â diddordeb mewn tir i gyflwyno safleoedd yr hoffent iddynt gael eu hystyried ar gyfer eu datblygu neu at ddefnydd arall drwy gyfrwng y CDLl. Gelwir y safleoedd a gaiff eu nodi'n Safleoedd Ymgeisiol.
Bydd modd cynnig Safleoedd Ymgeisiol at ddibenion posib megis: tai, cyflogaeth, manwerthu, hamdden, gwastraff, trafnidiaeth (e.e. safleoedd parcio a theithio), mannau agored, iechyd a chymuned. Dylid cynnig hyd yn oed y safleoedd hynny sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) oherwydd ni fydd modd eu trosglwyddo'n syth i'r CDLl newydd.
Yr hyn y bydd angen i chi ei wneud
Mae ffurflen wedi ei llunio i chi ei llanw a fydd yn rhoi cyfle i chi ddangos pam y dylid ystyried cynnwys y safle posib. Mae nodyn cynghori i'w gael gyda'r ffurflen sy'n rhoi canllawiau yngl?n â sut mae llanw'r ffurflen a'r hyn a fydd yn digwydd unwaith y bydd wedi ei chyflwyno.
Mae'r ffurflen ar gael i'w lawrlwytho ar waelod y dudalen hon neu fe gewch chi gopïau gan yr Adran Gynllunio, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA yn ystod oriau swyddfa.
Nodiadau Cyfarwyddyd Safleoedd Posibl Mehefin 2018