Skip to main content

Ceredigion County Council website

Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (AC/AAS)

Fel rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mae gofyn i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (yr Awdurdod) gynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd (AG) ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) ar y CDLl.

Diben yr Arfarniad o Gynaliadwyedd (AG) yw arfarnu effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y CDLl. Bydd yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yn ystyried strategaeth, polisïau a chynigion y CDLl i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn cyd-fynd ag egwyddorion datblygu cynaliadwy.

Bydd yr Arfarniad Cynaliadwyedd yn bwysig o ran dangos bod y CDLl yn gadarn. Mae'n elfen annatod o bob cam o baratoi'r cynllun, gan hysbysu'r CDLl o'r cychwyn cyntaf i'r mabwysiadu. Mae’r rhaid i’r Arfarniad Cynaliadwyedd gynnwys gofynion rheoliadau’r Asesiadau Amgylcheddol Strategol (AASau).