Skip to main content

Ceredigion County Council website

Diweddariad am y Cynllun Datblygu Lleol – Tachwedd 2021

Lefelau Ffosffad yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi

Yn dilyn tystiolaeth newydd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur ynghylch effeithiau niweidiol ffosffad ar rywogaethau ac ecosystemau dŵr, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru asesiad ar y 9 Ardal Cadwraeth Arbennig afonol yng Nghymru (gan gynnwys Afon Teifi yng Ngheredigion), a chyhoeddwyd y canlyniadau ym mis Ionawr 2021. Methodd dros 60% o’r cyrff dŵr yng Nghymru gyrraedd y targedau gan gynnwys Afon Teifi. Cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddatganiad sefyllfa ar gynllunio dros dro yn cynghori bod yn rhaid i unrhyw gynigion ar gyfer datblygu yn nalgylch afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig - yn enwedig y rhai a fydd yn cynhyrchu mwy o ddŵr gwastraff neu grynodiad uwch o ddŵr gwastraff - brofi yn awr na fydd y cynllun yn cyfrannu at lefelau ffosffad uwch. Diweddarwyd y datganiad hwn ym mis Mai 2021.

Beth mae hyn yn ei olygu i Gynllun Datblygu Lleol Newydd (LDP2) Ceredigion?

Mae Afon Teifi yn llifo drwy ardaloedd helaeth o Geredigion (mae dalgylch yr afon yn cynnwys 44.6% o Geredigion, gan gynnwys Tregaron, Llanbedr Pont Steffan a Llandysul) a byddai’r canllawiau newydd yn cael effaith sylweddol ar sut y byddai’r cymunedau hyn yn datblygu yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol nesaf, 2018-2033.

Ar gyngor Llywodraeth Cymru, bu oedi ar y Cynllun Datblygu Lleol newydd ers Ebrill 2020 oherwydd COVID-19. Hyd nes y rhyddhawyd y datganiad uchod, rhagwelwyd y byddai’r gwaith ar y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn ailddechrau. Fodd bynnag, ar ôl gwerthuso effaith datganiad cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru ar y Cynllun Datblygu Lleol newydd, mae perygl mawr na fydd y cynllun yn cael ei ystyried yn ‘gadarn’ drwy’r broses archwilio cyhoeddus a’i fod yn anaddas i bwrpas gan nad yw mater ffosffadau yn cael sylw. Mae hyn, ar hyn o bryd, am fod angen gwneud gwaith pellach ar ffosffadau, dulliau lliniaru posib a rheolaeth maethynnau yn gyffredinol, felly ni fyddai’r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn gallu dangos bod y datblygu arfaethedig yn nalgylch afon Teifi yn niwtral o ran ffosffad. Dewis arall oedd eithrio dalgylch Afon Teifi o strategaeth ofodol y Cynllun Datblygu Lleol newydd ac felly eithrio’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan ffosffad. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn diwallu anghenion cyfran sylweddol o boblogaeth Ceredigion. Yn ychwanegol at hyn, bydd yn rhaid i’r Cynllun Datblygu Lleol newydd gydymffurfio yn gyffredinol â Chymru’r Dyfodol, Cynllun Cenedlaethol 2040 a Pholisi Cynllunio Cymru (PPW 11) sy’n nodi Dyffryn Teifi yn ardal dwf ranbarthol ac yn mynnu bod awdurdodau cynllunio yn canolbwyntio ar y lleoliadau mwyaf cynaliadwy, felly ni fyddai eithrio’r ardal yr effeithir arni yn cydymffurfio â pholisi cenedlaethol.

Felly, mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor a gynhaliwyd yn rhithiol ar 21 Hydref 2021, cytunodd Cynghorwyr Cyngor Ceredigion bod angen gwneud penderfyniad pragmataidd, a chytunodd ar gyfnod o oedi dros dro am gyfnod amhenodol, hyd yma, ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd, i ganiatáu i ddata a thystiolaeth hanfodol gael eu casglu, ac i opsiynau lliniaru gael eu llunio. Yn y cyfamser, mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru Welsh Water, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol cyfagos i ddod o hyd i atebion lleol a chenedlaethol i’r mater.

Er bod cyfnod cynllunio’r Cynllun Datblygu Lleol cyfredol yn dod i ben yn 2022, bydd yn parhau’n Gynllun Datblygu ar gyfer Ceredigion tan bod Cynllun Newydd yn cael ei fabwysiadu.

Yn olaf, mae’r Tîm Polisi dal yma i roi cyngor a chymorth ynglŷn â pholisïau a gallwch gysylltu â’r swyddogion drwy anfon neges e-bost at ldp@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 572125. Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau unigol y tîm ar e-bost neu dros y ffôn.


Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol osod gweledigaeth ar gyfer newid defnydd tir lleoedd er mwyn diwallu’u hanghenion datblygu dros gyfnod y cynllun. Bydd hynny’n rhoi sicrwydd i ddatblygwyr a’r cyhoedd ynghylch y math o ddatblygiad a ganiateir mewn lleoliad penodol. Bydd y CDLl yn cynnwys polisïau lleol a phenodol i esbonio neu ddatblygu polisïau cenedlaethol a rhoi blaenoriaethau lleol ar waith. Bydd angen tystiolaeth i gefnogi polisïau’r CDLl a chloriennir y rheini gan y drefn archwilio.

Dylid rhoi sylw yn y CDLl i’r cynlluniau llesiant lleol perthnasol a’r datganiadau ardal sydd wedi’u cynhyrchu ar gyfer yr ardal. Rhaid i’r CDLl gydymffurfio â’r Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS) neu’r Fframwaith Datblygu Cenedlathol (FfDC) (unwaith y bydd y rhain yn eu lle).