Cyngor mewn Argyfwng
Bwriad y Llywodraeth yw ceisio lleihau risg yn sgil argyfwng fel y gall pobl gyflawni pethau fel arfer ac yn hyderus.
Mae UK Resilience website yn bodoli er mwyn darparu adnoddau i ymarferwyr diogelwch sifil, gan gefnogi'r gwaith a wneir ar draws y DU er mwyn gwella parodrwydd ar gyfer argyfwng.
Mae Cymru Gydnerth yn gweithio i sicrhau bod polisi a chynllunio diogelwch sifil wedi ei deilwra i gwrdd ag anghenion Cymru.
Nid oes rheswm dros feddwl bod Ceredigion mewn perygl penodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag os bydd digwyddiad sylweddol, y cyngor yw ewch adref ac arhoswch gartref neu ewch i mewn i rywle diogel arall a throwch y radio neu'r teledu ymlaen er mwyn clywed y newyddion.
Ewch i mewn, Arhoswch i mewn, Tiwniwch i mewn
Mae'r cyngor EWCH I MEWN, ARHOSWCH I MEWN, TIWNIWCH I MEWN yn cael ei gydnabod dros y byd i gyd. Datblygwyd ef gan y Pwyllgor Llywio Cenedlaethol ar Rybuddio a Hysbysu'r Cyhoedd sydd yn annibynnol fel y cyngor cyffredinol gorau i bobl sydd yn cael eu dal mewn argyfwng.
Radio Ceredigion 96.6 FM 97.4 FM 103.3 FM |
Radio Wales 95.3 FM |
Radio Cymru 93.1 FM |
Sonir am unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol sydd yn effeithio ar Geredigion ar wefan y Cyngor.