Cyngor am Lifogydd
Cyngor i Breswylwyr Sydd Wedi eu Heffeithio gan Lifogydd
Mae’r cyngor isod yn cael ei roi i breswylwyr sy’n dychwelyd i’w cartrefi ar ôl llifogydd:
Gofynnwch Am Gymorth Ac Arweiniad
Cyn dechrau, peidiwch â meddwl bod rhaid i chi ymdopi â’r sefyllfa ar eich pen eich hunan. Gofynnwch am gymorth ac arweiniad.
Mae Diogelwch Yn Hollbwysig
Gwnewch yn siŵr ei bod yn ddiogel i chi fynd i mewn i’ch eiddo. Mae swyddogion yr Awdurdod Lleol ar gael i’ch cynghori os oes angen.
Gofynnwch i berson proffesiynol ddelio ag unrhyw waith yn ymwneud â nwy, trydan, plymio neu waith strwythurol.
Peidiwch â chynnau unrhyw offer trydanol sydd wedi bod o dan ddŵr os nad yw wedi cael ei archwilio yn gyntaf gan drydanwr cymwys a dylai unrhyw waith yn ymwneud â nwy gael ei wneud gan berson sydd wedi’i gofrestru gyda ‘Gas Safe’.
Byddwch yn ofalus os bydd gweithwyr dieithr yn ymddangos ar garreg y drws i gynnig gwneud unrhyw waith yn eich cartref. Bydd gweithwyr dilys bob amser yn cynnig manylion ysgrifenedig o’r gwaith sydd angen ei wneud, byddant yn rhoi manylion am eich hawl i ganslo’r cytundeb rhyngoch a byddant yn darparu manylion am eu cyfeiriad gwaith neu gyfeiriad cartref. Efallai ei bod yn ymddangos yn syniad da i dderbyn cynnig i wneud gwaith atgyweirio yn syth er mwyn datrys problemau ond mae’n werth oedi a chael cyngor cymdogion, eich teulu neu eich cwmni yswiriant o ran contractwyr adeiladu dibynadwy. Cofiwch y gall eich cwmni yswiriant fynnu eich bod yn defnyddio un o’u gweithwyr cymeradwy hwy er mwyn prosesu eich cais.
Byddwch Yn Ymwybodol O Beryglon Iechyd
Cyn mynd i mewn i’ch eiddo, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am y peryglon iechyd gan fod dŵr llifogydd yn aml wedi ei lygru a hyd yn oed os yw’r dŵr yn ymddangos yn ‘lân’, gall fod ynddo facteria a all achosi salwch. Os ydych yn teimlo’n sâl, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â’ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Defnyddiwch fenig a dillad pwrpasol cyn dechrau unrhyw waith glanhau. Mae glendid personol, gan gynnwys golchi dwylo a gorchuddio briwiau, yn hollbwysig.
Casglwch Offer A Chyfarpar Ynghyd
Pan fyddwch yn glanhau, gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o offer megis ysgubau, brwshys sgrwbio, mopiau, bwcedi, sebon a hylif diheintio, menig rwber, masg i’ch wyneb a dillad pwrpasol. Peidiwch â chymysgu sebon gyda dŵr cannu, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio digon o ddŵr glân.
Tynnwch Luniau O’ch Cartref Ac Unrhyw Eiddo Sydd Wedi Ei Ddifrodi. Cadwch Gofnod O’r Difrod Ac Unrhyw Gamau A Gymerwyd Gennych.
Mae hyn yn cynnwys cofnod ysgrifenedig o gyflwr yr eiddo, gan gofnodi pa mor uchel y cododd y dŵr a gwneud rhestr o’r eitemau sydd wedi eu difrodi a’u cyflwr.
Gwaredwch Unrhyw Ddŵr Llonydd A Mwd Lle Bo Hynny’n Bosibl
Gwaredwch unrhyw garpedi, matiau, llenni ac ati sydd wedi’u trochi. Diogelwch eich dodrefn a’ch eiddo rhag niwed pellach trwy eu codi i lefel uwch os yn bosibl. Rhowch fagiau plastig dros goesau dodrefn pren er mwyn osgoi sugno mwy o ddŵr.
Dillad A Dillad Gwely
Golchwch y rhain ac unrhyw eitemau eraill o ddefnydd meddal, megis teganau plant, ar gylch poeth (60 gradd neu’n uwch), er mwyn lladd unrhyw ermau sydd arnynt. Golchwch y dillad yr oeddech yn eu gwisgo wrth lanhau ar wahân i ddillad sydd heb eu heintio.
Paratoi A Storio Bwyd
Peidiwch â bwyta unrhyw fwyd sydd wedi bod o dan ddŵr. Sicrhewch fod pob arwyneb a’r holl botiau, sosbenni, cyllyll a ffyrc, ac offer sy’n cyffwrdd â bwyd yn cael eu glanhau gan ddefnyddio dŵr poeth o'r tap a sebon (hylif golchi llestri) a dylid hefyd eu diheintio (gan ddefnyddio diheintydd sy’n ddiogel i’w ddefnyddio ar fwyd ac sydd ar gael mewn archfarchnadoedd). Os ydy’r arwynebau gwaith wedi’u difrodi, peidiwch â’u defnyddio.
Dylai bwyd wedi’i rewi sydd wedi bod ar dymheredd yr ystafell am ychydig oriau gael ei daflu. Rhowch y bwyd sydd wedi’i heintio mewn bagiau sbwriel du a’u cyflwyno ar ddiwrnod eich casgliad nesaf. Gwiriwch gyda’ch cwmni yswiriant cyn eu gwaredu.
Peidiwch â chael eich temtio i ddefnyddio bwyd sydd wedi bod o dan ddŵr. Gall hyd yn oed tuniau bwyd fod yn beryglus i’ch iechyd os ydynt wedi’u heintio â charthion.
Peidiwch â bwyta bwyd o’r ardd neu’r rhandir os ydyw wedi bod o dan ddŵr.
Dylai unrhyw fan sy’n dangos arwyddion o lwydni gael ei drin â chynnyrch ffyngladdol.
Sychwch Yn Ofalus
Agorwch ffenestri a drysau i gynorthwyo gyda’r gwaith sychu. Peidiwch â cheisio sychu eich eiddo trwy ddefnyddio gwres canolog nac offer gwresogi arall. Peidiwch â defnyddio generaduron disel na phetrol yn y tŷ. Gall cyfuniad o wres a thamprwydd achosi difrod pellach ac ysgogi llwydni.
Os hoffech fwy o wybodaeth a chyngor cysylltwch â chanolfan gyswllt Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 570881 neu e-bostiwch tai@ceredigion.gov.uk
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor ynghylch glanhau’n ddiogel:
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/94753
Gwybodaeth - Cyfoeth Naturiol Cymru
Rhybuddion Llifogydd
Edrychwch i weld os ydych mewn perygl o lifogydd o afonydd neu'r môr - nawr neu dros y dyddiau nesaf:
Lefelau Afonydd
Defnyddiwch y map lefelau afonydd i weld lefelau afonydd yn eich ardal chi:
Cyngor am Lifogydd
Dysgwch am eich perygl o lifogy’dd a beth iw wneud yn ystod llifogydd, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd:
Tablau Llanw Ceredigion
Wefan Twristiaeth Ceredigion: