Skip to main content

Ceredigion County Council website

Costau Addysg ac Ysgol

Darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael i helpu gyda chostau addysgu ac anfon eich plentyn i'r ysgol.

Clwb Brecwast am Ddim

Nod y cynllun Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd yw darparu brecwast iach i blant cyn dechrau'r diwrnod ysgol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd: gwybodaeth i rieni a gofalwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.

Prydau Ysgol am Ddim

O fis Medi 2023, bydd holl fyfyrwyr ysgolion cynradd Ceredigion yn derbyn prydau ysgol am ddim. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Prydau Ysgol am Ddim.

Gwisg Ysgol

Gall dysgwyr sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim wneud cais am grât o £125 y dysgwr, a £200 i’r dysgwyr hynny sy’n dechrau ym mlwyddyn 7, gan gydnabod costau uwch sy’n seiliedig â dechrau yn ysgol uwchradd. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Grant Hanfodion Ysgol.

Cynnyrch Mislif am Ddim

Mae Cyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â Chyngor Ieuenctid Ceredigion yn anelu at hyrwyddo urddas mislif a mynd i’r afael â thlodi mislif drwy ddefnyddio Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Urddas Mislif yng Ngheredigion.