Biliau’r Aelwyd ac Ynni
Help gyda chostau eich cartref gan gynnwys biliau ynni a chadw cartrefi'n gynnes.
Severn Wye Cyngor Ynni yn y Gymuned
Mae ein hymgynghorwyr cymunedol yng Ngheredigion yn ymweld â phobl yn eu gartref i gynnig cymorth gyda dyledion tanwydd a defnydd ynni.
Ffoniwch ni o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm i weld a allwn gynnig ymweliad i chi: 0800 170 1600
Tudalen Cyngor a Chymorth Severn Wye
Biliau Dŵr
Mae gan Dŵr Cymru nifer o ffyrdd y gallent o bosibl eich helpu a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy.
Cymorth â chostau byw | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Mae'r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn ostyngiad unwaith o £150 oddi ar eich bil trydan. Os ydych yn gymwys, bydd eich cyflenwr yn rhoi'r gostyngiad i'ch bil trydan. Efallai y gallwch chi gael y gostyngiad ar eich bil nwy yn lle hynny os yw’ch cyflenwr yn darparu nwy a thrydan i chi a’ch bod yn gymwys.
Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes: Trosolwg - GOV.UK (www.gov.uk)
Cost Offer Trydanol
Cymharwch pa offer sy’n defnyddio’r mwyaf a’r lleiaf o bwer ar wefan Citizen's Advice.
Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni
Cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref.
Taliadau Tywydd Oer
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu Gredyd Cynhwysol byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer o'r Llywodraeth yn awtomatig bob tro y mae’n mynd yn oer iawn.
Taliad Tanwydd Gaeaf
Os cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1958 gallech gael naill ai £200 neu £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer gaeaf 2024 i 2025. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth DU - Taliad Tanwydd Gaeaf
Os ydych wedi clywed am y newidiadau i Daliadau Tanwydd y Gaeaf, byddwch yn ymwybodol bod rhaid i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn erbyn 21 Rhagfyr 2024 i fod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd Gaeaf 2024 i 2025.
Clwb Clud - Clybiau Olew Ceredigion
Gall Clybiau Olew Ceredigion eich helpu i arbed arian, cysylltu â’r gymuned a lleihau allyriadau carbon.
Y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF)
O dan rai amgylchiadau gallech fod yn gymwys i gael Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) neu Daliad Cymorth i Unigolion (IAP). Gallwch ddarganfod a allech gael grant o Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) Llywodraeth Cymru.
Cynnyrch Mislif am Ddim
Mae Cyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â Chyngor Ieuenctid Ceredigion yn anelu at hyrwyddo urddas mislif a mynd i’r afael â thlodi mislif drwy ddefnyddio Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru.
Nyth
Mae Nyth yma i’ch helpu gyda chyngor diduedd am ddim y gallwch ymddiried ynddo. Gallwn ddarparu cyngor am effeithlonrwydd ynni ac os ydych yn gymwys, cynnig cymorth i osod gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cymorth a'r cyngor arbed ynni y gall Nyth ei ddarparu o'u gwefan.
Morgeisi: Cynllun Cymorth i Aros Cymru
Nod y cynllun yw lleihau taliadau morgais misol presennol i lefel fforddiadwy fel y gallwch barhau i fyw a pherchen eich cartref. Mae’n cynnig help i berchnogion tai sydd mewn anhawster ariannol i dalu eu hymrwymiadau morgais i’w prif fenthyciwr trwy gynnig cymorth sy’n cynnwys cynllun benthyciad ecwiti.
Os ydych chi yn cael trafferth fforddio eich taliadau morgais ac mae eich incwm cartref yn llai na £67,000, mae gwerth eich cartref ddim fwy na £300,000, chi’n byw yn Gymru a hwn yw eich unig gartref, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.