Skip to main content

Ceredigion County Council website

Arian a Dyled

Cael cyngor a chefnogaeth i helpu i reoli arian a dyledion.

Materion Ariannol

Ewch i'n tudalen Materion Ariannol am ragor o wybodaeth.

StepChange

 Rydym yn cynnig cyngor am ddim a hyblyg ar ddyledion sy'n seiliedig ar asesiad cynhwysfawr o'ch sefyllfa. Byddwn wedyn yn darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol am ba mor hir y mae ei angen.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan StepChange.

Ymwybyddiaeth Sgamiau

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau, gan gynnwys rhai digidol, ar garreg eich drws, dros y ffôn a drwy’r post. Ewch i'n tudalen Scamiau am ragor o wybodaeth.

Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cyfrif cynilo di-dreth hirdymor ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011. Os cawsoch eich geni rhwng y dyddiadau hyn, ar ôl i chi droi'n 18 oed, gallwch gael gafael ar yr arian yn y cyfrif. Ar hyn o bryd mae tua 600 o Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio yng Ngheredigion. I hawlio'ch un chi ewch i dudalen Dod o hyd i'ch cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar wefan Sharefound.