Ynglyn â'r Cynllun
Cynllun Cyfamod Cymunedol
Lansiwyd y Cynllun Cyfamod Cenedlaethol gan y Llywodraeth yn 2011, a chytunwyd y byddai egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael eu cynnwys yn y gyfraith.
Mae'r egwyddorion yn cynnwys:
- cydnabod natur unigryw y gwasanaeth
- sicrhau nad oes unrhyw anfantais, e.e. heb fod yn gallu manteisio ar wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i Wasanaeth yn y Lluoedd Arfog, ac
- mae modd cyfiawnhau triniaeth arbennig, e.e. yn achos personél a anafwyd.
Mae Cyfamodau Cymunedol yn ddatganiadau gwirfoddol o gymorth ar y cyd rhwng cymunedau sifil a'u cymuned Lluoedd Arfog leol.
Nod Cyfamodau Cymunedol yw:
- annog cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardaloedd;
- meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r materion y maent yn effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog;
- cydnabod a chofio'r aberthau a wnaethpwyd gan gymuned y Lluoedd Arfog;
- annog gweithgareddau sy'n helpu i integreiddio'r Lluoedd Arfog ym mywyd lleol; ac
- annog cymuned y Lluoedd Arfog i helpu i gynorthwyo'r gymuned ehangach trwy gyfranogi mewn digwyddiadau a phrosiectau ar y cyd, neu fathau eraill o ymgysylltu.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i'r Cynllun Cyfamod Cymunedol.
Mae'r elusennau y maent yn gweithio gyda'r Lluoedd Arfog, eu Teuluoedd, Milwyr wrth Gefn a Chyn-filwyr yn cynnwys:
- Y Lleng Brydeinig Frenhinol
- Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)
- Help for Heroes
- Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin
- Ffederasiwn Teuluoedd y Llynges
- Ffederasiwn Teuluoedd yr Awyrlu Brenhinol
- Cronfa Les yr Awyrlu Brenhinol
- ABF Elusen y Milwyr
- Seafarers UK
- Combat Stress
- Cartrefi i Gyn-filwyr Cymru