Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD)
- Beth yw Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD)?
- Amgylchiadau ble NA ELLIR rhoi TTD
- Amgylchiadau ble GELLIR rhoi TTD
- A ydw i'n gallu hawlio TTD?
- A ydw i'n gallu hawlio TTD i helpu â chostau symud?
- Pa wybodaeth fydd angen i mi ei ddarparu?
- Sut ydych chi'n penderfynu os ydw i'n gallu derbyn TTD?
- Sut y byddwch yn trosglwyddo'r TTD os bydd fy nghais yn llwyddiannus?
- Beth a ddylwn ei wneud os byddaf yn anghytuno â'ch penderfyniad?
- Beth os yw fy amgylchiadau'n newid?
Beth yw Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD)?
Mae'r Llywodraeth yn rhoi swm penodol o arian i bob Awdurdod Lleol ar gyfer Taliadau Tai Dewisol (TTD) bob blwyddyn i roi cymorth i'r bobl sydd ei angen fwyaf.
Nid budd-dal yw'r TTD – swm o arian ydyw y gellir ei roi mewn argyfwng i helpu pobl dalu costau tai, fel arfer pan mae eu Budd-dal Tai (neu'r elfen tai o'r Credyd Cynhwysol) yn llai na'r rhent y mae'n rhaid ei dalu.
Nid yw'n bosib rhoi'r Taliad ymhob achos pan na fydd y Budd-dal yn ddigon i dalu'r rhent, ac nid hynny yw'r bwriad chwaith. Felly, er mwyn penderfynu pwy ddylai gael y taliad pan fydd gormod o alw ar y gwasanaeth (fel sy'n dueddol o ddigwydd), mae Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio Fframwaith Gweithdrefnol sydd wedi'i ddatblygu at y pwrpas.
Mae'r fframwaith yn ddull cytûn o benderfynu pwy ddylai gael TTD. Y nod yw sicrhau y dilynir trefn gyson a thryloyw wrth benderfynu. Fodd bynnag, nid bwriad y fframwaith yw rhoi'r un ateb am bob sefyllfa. Wrth galon y cynlluniad yw'r angen i ymarfer doethineb.
Amgylchiadau ble NA ELLIR rhoi TTD
Ni ellir rhoi TTD am y pethau canlynol:
- Costau nad ydynt yn gymwys (prydau bwyd, gwres, trydan a phethau eraill sydd wedi'u cynnwys yn eich rhent) a threthi dŵr
- Unrhyw gynnydd mewn rhent oherwydd ôl-ddyledion
- Rhai cosbau penodol a gostyngiadau mewn budd-daliadau
- Pan fo'ch Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol wedi'i atal
- Gostyngiad yn y Budd-dal Tai neu'r Credyd Cynhwysol er mwyn adennill arian a ordalwyd
- Pan fydd Gostyngiad Treth y Cyngor yn llai na swm Treth y Cyngor sydd angen ei dalu
Amgylchiadau ble GELLIR rhoi TTD
Pa fath o bethau y gellir rhoi TTD ar eu cyfer?
- Gostyngiadau mewn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol o ganlyniad i gyfyngiadau'r Lwfans Tai Lleol
- Cyfyngiadau'r Swyddog Rhenti, gan gynnwys rhenti cyfeirio lleol neu gyfraddau lle rhennir ystafelloedd
- Pan nad oes digon o arian i dalu rhent ar gyfer tenantiaeth bresennol, er mwyn atal y teulu rhag mynd yn ddigartref wrth i'r awdurdod lleol ymchwilio i ddewisiadau eraill
- Gostyngiadau oherwydd cynnydd mewn incwm
- Didynnu arian o'r Budd-dal Tai ar gyfer pobl annibynnol sy'n byw ar yr aelwyd, neu ddidynnu o'r elfen costau tai yn y Credyd Cynhwysol
- Gostyngiadau mewn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn sgil diddymu'r cymhorthdal ystafell sbâr yn y sector rhentu cymdeithasol
- Gostyngiadau mewn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol pan osodir cap ar fudd-daliadau
- Gellid ystyried rhoi TTD mewn un swm mawr i helpu gyda chostau symud, hynny yw, rhent ymlaen llaw neu flaendal, a chostau symud dodrefn a chelfi
Gellid ystyried rhoi TTD mewn un swm mawr i helpu gyda chostau symud, hynny yw, rhent ymlaen llaw neu flaendal, a chostau symud dodrefn a chelfi.
A ydw i'n gallu hawlio TTD?
Ni ellir rhoi TTD ond pan fo'r sawl sy'n gwneud cais amdano gyda'r hawl i dderbyn:
- Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol;
- Credyd Cynhwysol sy'n cynnwys elfen costau tai ar gyfer talu rhent; neu
- Pan fydd yr ymgeisydd angen cymorth ariannol gyda chostau tai
A ydw i'n gallu hawlio TTD i helpu â chostau symud?
Gellir ystyried rhoi TTD mewn un swm mawr i helpu gyda chostau symud, hynny yw, rhent ymlaen llaw neu flaendal, a chostau symud dodrefn a chelfi. Darllenwch y meini prawf cymhwyso yn Anecs 5 o'r Fframwaith Gweithdrefnol.
Pa wybodaeth fydd angen i mi ei ddarparu?
Os ydych yn bodloni'r amodau o dan 'A ydw i'n gallu hawlio TTD? bydd yn rhaid i chi neu rywun sy'n eich cynrycholi gyflwyno hawliad yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen gais TTD ar wefan y Cyngor. Gallwch lawrlwytho'r ffurflen mewn dogfen Word, ei chwblhau a'i hanfon drwy e-bost i revenues@ceredigion.gov.uk neu drwy law neu post i unrhyw un o'r Swyddfeydd Ranbarthol Leol a restrir ar y ffurflen.
Lluniwyd y ffurflen i gasglu'r holl wybodaeth sydd ei angen, a gallwch ddarllen y llyfryn "Gwneud Cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn" sy'n cynnwys canllawiau ar gwblhau'r ffurflen. Gallwch hefyd gael cymorth i lenwi'r ffurflen mewn unrhyw un o'r Swyddfeydd Ranbarthol Leol a restrir ar y ffurflen ac yn y llyfryn.
Os hoffech chi wneud cais am TTD mewn un swm mawr i helpu â chostau symud, hynny yw, rhent ymlaen llaw neu flaendal, a chostau symud dodrefn a chelfi, dylech yn gyntaf ddarllen y meini prawf cymhwyso a nodir yn Anecs 5 o'r Fframwaith Gweithdrefnol. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf gallwch gyflwyno hawliad yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen gais TTD at Gostiau Symud ar wefan y Cyngor
Gallwch lawrlwytho copi o'r ffurflen mewn dogfen Word i'r ymgeisydd (neu gynrychiolydd) a'r darpar landlord ei llenwi. Ar ôl cwblhau'r ffurflen gellir ei sganio a'i hanfon drwy e-bost i revenues@ceredigion.gov.uk, drwy'r law neu post i unrhyw un o'r Swyddfeydd Ranbarthol Leol.
Sut ydych yn penderfynu os ydw i'n gallu derbyn TTD?
Y materion pennaf a gaiff eu hystyried wrth benderfynu yw:
- Amgylchiadau ariannol yr aelwyd
- Y grŵp blaenoriaeth y mae'r aelwyd yn perthyn iddo
- I ba raddau y mae aelodau o'r aelwyd yn medru rheoli'r sefyllfa y maent ynddi, ac yn fodlon gwneud hynny, neu a ydyw'n afresymol disgwyl iddynt wneud mwy
- Y goblygiadau ariannol cyffredinol o beidio â rhoi'r taliad
Mae'r Fframwaith Gweithdrefnol yn rhoi mwy o fanylion am y materion hyn.
Anfonir llythyr atoch chi neu'ch cynrychiolydd unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud.
Sut y byddwch yn trosglwyddo'r TTD os bydd fy nghais yn llwyddiannus?
Trosglwyddir eich TTD gyda'ch Budd-dal Tai.
Beth a ddylwn ei wneud os byddaf yn anghytuno â'ch penderfyniad?
Nid yw'r TTD yn rhan o'r Budd-dal Tai ac felly ni fydd gennych yr un hawl statudol i gyflwyno apêl i'r Gwasanaeth Tribiwnlys. Serch hynny, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sefydlu gweithdrefnau sy'n galluogi pobl sy'n hawlio'r taliad neu'u cynrychiolwyr i gael eglurhad o unrhyw benderfyniad a wnaethpwyd gan yr Adain Fudd-daliadau ynglŷn â'r taliad hwnnw. Mae'r weithdrefn hefyd yn galluogi pobl i herio penderfyniadau. Ceir manylion am ddatrys anghydfod yn y Fframwaith Gweithdrefnol.
Beth os yw fy amgylchiadau'n newid?
Mae'n rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig ar unwaith os yw'ch amgylchiadau'n newid.
Mae'n arbennig o bwysig eich bod yn rhoi gwybod inni am unrhyw newidiadau yn eich incwm, eich patrymau gwario neu'r bobl sy'n byw ar eich aelwyd. Gan amlaf bydd unrhyw newid mewn amgylchiadau'n effeithio ar y Budd-dal Tai i ddechrau, ond yn y rhan helaeth o achosion yn arwain at ddiddymu'r TTD hefyd. Gellir gwneud cais o'r newydd ar ôl hyn, fel y bo'n briodol
Gweler Newid Amgylchiadau am fwy o wybodaeth.