Credyd Cynhwysol
Esboniwyd Credyd Cynhwysol
Bydd Credyd Cynhwysol yn eich cynorthwyo i fod yn fwy annibynnol ac yn symleiddio'r system budd-daliadau trwy ddod ag ystod o fudd-daliadau oed gweithio ynghyd mewn un taliad.
Bydd y Credyd Cynhwysol yn disodli'r canlynol:
- Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
- Budd-dal Tai
Gellir cael gwybodaeth fanwl ar Credyd Cynhwysol o tudalen Beth yw Credyd Cynhwysol y Llywodraeth.
Bydd angen i chi hawlio Gostyngiad yn Nhreth Y Cyngor gan Cyngor Sir Ceredigion os oes yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor.
Bydd dal angen gwneud ceisiadau o ran Budd-dal Tai os ydych chi’n hawlio’r Credyd Cynhwysol ac yn byw mewn llety â chymorth neu llety dros dro.
Sut allaf ei hawlio?
Disgwylir i chi wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein.
Mae rhif ffôn, 0800 3281744, ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm, sy'n rhoi cymorth a chyngor ar wneud cais ar-lein neu os ydych yn cael trafferthion tra'ch bod yn gwneud cais.
Mae cyfeiriad y wefan ar gyfer rhagor o wybodaeth ac i wneud cais ar-lein ar tudalen Sut i wneud cais y Llywodraeth.
Beth os fydd fy amgylchiadau'n newid?
Os bydd eich amgylchiadau'n newid rhaid i chi roi gwybod i'r Ganolfan Wasanaeth Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn derbyn cymorth i dalu eich Treth y Cyngor bydd angen i roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i'r Tîm Budd-daliadau yng Nghyngor Sir Ceredigion.
A allaf barhau i hawlio Taliad Tai yn ôl Disgresiwn?
Os nad ydych bellach yn hawlio'r Budd-dal Tai oherwydd eich bod yn derbyn yr elfen tai trwy'r Credyd Cynhwysol gallwch wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn trwy Gyngor Sir Ceredigion.
Symud i Gredyd Cynhwysol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo
Ceir rhagor o wybodaeth ar tudalen Symud i Gredyd Cynhwysol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo y Llywodraeth.