Pa wastraff fydd yn cael ei dderbyn yn y Safleoedd Gwastraff Cartref
Derbyn
Batris (asid plwm a chell sych)
Caniau
Cardbord
Cetris argraffydd
Dodrefn
Eitemau trydanol gan gynnwys offer cartref (gweler Nodyn 2)
Ffonau symudol
Gwastraff cartref cyffredinol na ellir ei ailgylchu (gweler Nodyn 1)
Gwastraff gardd
Gwydr plât
Matresi (gweler Nodyn 3)
Metel sgrap
Olew gwastraff (llysiau a mwynau)
Paent a thoddyddion
Papur
Plastigau
Poteli a jariau gwydr
Tecstilau (gan gynnwys dillad, esgidiau, duvets a chlustogau)
Tiwbiau fflwroleuol a bylbiau
Cyfyngedig
Asbestos – wedi'i gyfyngu i 2 ddalen neu'r cyfwerth y flwyddyn (mae gofynion penodol yn berthnasol gweler Nodyn 4)
Bwrdd plastr – 2 ddalen y flwyddyn
Gosodiadau a ffitiadau'r cartref wedi'u cyfyngu i un eitem (e.e. un sinc, un cwpwrdd cegin, un ffrâm ffenestr, un drws, un stôr-wresogydd ac ati)
Gwastraff DIY – wedi'i gyfyngu i 5 sach rwbel/ adeiladwyr (uchafswm 20kg yr un) o bridd, rwbel neu wastraff DIY y flwyddyn
Gwastraff o glirio tŷ (cysylltwch â ni am gyngor)
Pren wedi'i gyfyngu i wastraff gardd prennaidd, dodrefn pren, darnau bach o osodiadau a ffitiadau, un sied ardd fach (cysylltwch â ni am gyngor)
Ddim yn cael ei dderbyn
Ceir/carafanau a rhannau ceir/carafanau a cherbydau diwedd oes
Cynnyrch Hylendid Amsugnol (CHA)
Gwastraff amaethyddol
Gwastraff anifeiliaid anwes
Gwastraff bwyd (cysylltwch â ni am gyngor)
Gwastraff masnach/busnes gan gynnwys gwastraff adeiladwyr (gweler Nodyn 3)
Nifer fawr o osodiadau a ffitiadau cartref
Silindrau nwy a diffoddwyr tân
Tai allan (siediau mawr, tai gwydr, bynceri)
Teiars
Nodiadau:
Rydym yn cadw'r hawl i wirio cynnwys gwastraff sydd mewn sachau du/sachau sbwriel. Rhaid didoli eitemau y gellir eu hailgylchu i'r cynhwysydd priodol ar y safle.
Mae angen llenwi Ffurflen Ymwadiad Amonia ar gyfer oergelloedd amonia.
Mae gwastraff masnach yn golygu unrhyw wastraff a gynhyrchir o ganlyniad i unrhyw weithgaredd masnachol, e.e. dodrefn a matresi (1 fesul cartref) o eiddo rhent wedi'i ddodrefnu, gwastraff swyddfa, gwastraff o fusnesau yn y cartref, gwastraff o lety hunanarlwyo, gwastraff gardd wedi'i gynhyrchu gan wasanaethau garddio am dâl.
I gael arweiniad ar ddelio ag asbestos, ewch i'r A-Y o wastraff.