Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff
Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.
Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.
Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.
Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.
Diolch.
Dyddiad | Ardal wedi’i effeithio | Math o wastraff sydd wedi’i effeithio | Rheswm | Cyngor |
---|---|---|---|---|
16eg Ebrill 2025 | Llangrannog, Glynarthen, Blaenannerch, Llwyndafydd, Penbryn, Tresaith, Cwmtydu llwybr 163 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Problemau gyda staffio | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Mercher 16eg Ebrill 2025 |
16eg Ebrill 2025 | Bethania, Penuwch, Llangeitho, Cross Inn(G), Bontnewydd, Trefenter, Llangwyryfon, Blaenpennal, Tynreithyn llwybr 175 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Problemau gyda staffio | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf |
15fed Ebrill 2025 | Garth-y-Mor llwybr 159 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Problemau mynediad | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Mercher 16eg Ebrill 2025 |
10fed Ebrill 2025 | Gorsgoch, Talgarreg, Cwrt Newydd, Cwmsychpant, Llanwnen, Capel Dewi, Bwlch y Fadfa, Pontsian, Llanwenog, Synod Inn, Drefach, llwybr 170 |
Bagiau Ailgylchu Clir | Problemau gyda staffio | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf |
Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf