Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ymgynghoriad Strategaeth Ddigidol Ceredigion

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 9 Gorffennaf 2024.

Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn cyfarfod y Cyngor ar 23 Ionawr 2025.

Strategaeth Ddigidol adroddiad i'r Cyngor yn dilyn yr ymgynghoriad.

Adroddiad Adborth y Strategaeth Ddigidol.

Gofynnodd yr Aelodau am y sgôr uchel o 9 ar y gofrestr risg, a nodwyd bod capasiti a chyllid yn risg i bob gwasanaeth a bod seiberddiogelwch yn her gyson i’w chynnal a’i liniaru. Nododd yr Aelodau hefyd bwysigrwydd technoleg ddigidol, gan ystyried anghenion poblogaeth sy’n heneiddio. Nodwyd y dylai’r gwasanaeth gael ei ddylunio gyda phrofiad y defnyddwyr terfynol mewn golwg, gan gynnwys profi’r cyhoedd a derbyn adborth, a bod y strategaeth yn ceisio sefydlu grwpiau defnyddwyr i wella ymgysylltiad ac ymgynghori. Nodwyd hefyd y byddai cyflwyniad yn cael ei roi i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd er mwyn sicrhau bod gan y Cynghorwyr gwell dealltwriaeth o Ddeallusrwydd Artiffisial.

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r Strategaeth Ddigidol 2024-2030.

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi datblygu Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer 2024 hyd at 2030 ac fe hoffai ymgynghori â rhanddeiliaid am eu barn. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei chynnal am gyfnod o 8 wythnos.

Mae Cyngor Ceredigion yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol i bobl Ceredigion a bydd yn parhau i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dinasyddion, gwella gwasanaethau ac annog gwytnwch yn ein cymunedau.

Mae'r strategaeth yn ceisio cefnogi'r strategaeth ddigidol genedlaethol yn ogystal â strategaeth y cyngor a chyflawni gweledigaeth “Ceredigion sy’n Hyderus yn Ddigidol”.

Mae ein strategaeth yn nodi ystod o 20 canlyniad rydym yn bwriadu cyflawni dros 3 philer strategol craidd. Bydd y ddarpariaeth yn cael ei rheoli drwy 3 chynllun bob dwy flynedd gydag adolygiadau ailadroddol ac adborth i flaenoriaethu a mesur ein canlyniadau.

Strategaeth Ddigidol (drafft).

Am gopi Hawdd i Ddarllen neu Print Bras o’r strategaeth cysylltwch â’n Ganolfan Cyswllt CLIC ar 01545 570881 neu dros e-bost ar clic@ceredigion.gov.uk.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd adroddiad, yn cyfleu canfyddiadau'r ymgynghoriad, yn cael ei gynhyrchu a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu a'r Cyngor am benderfyniad terfynol. Bydd yr adroddiad yn cael i'w cyhoeddi yma.