Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ymgynghoriad ar system bleidleisio yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 6ed Medi 2024.

Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn cyfarfod y Cyngor ar 14/11/2024.

Adroddiad ynghylch a ddylid mabwysiadu'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.

 

Penderfyniad

Er mwyn mabwysiadu system o bleidlais sengl drosglwyddadwy roedd yn rhaid i o leiaf ddwy ran o dair o Aelodau’r Cyngor fod o blaid, sef 26 allan o 38.

Gan na chyrhaeddwyd y trothwy o 26 nid yw’r argymhelliad yn pasio. O ganlyniad, ni fydd y system bleidleisio yn newid ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2027.

 

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am glywed eich barn ar system bleidleisio yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion.

  • Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 15.07.2024
  • Y dyddiad cau fydd 06.09.2024 

Diolch am gymryd yr amser i roi adborth i ni.

Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael mewn print bras.  Os oes angen yr ymgynghoriad hwn arnoch mewn unrhyw fformat arall, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy clic@ceredigion.gov.uk.

Cefndir

Mae pob cynghorydd yng Nghymru yn cael eu hethol ar hyn o bryd gan ddefnyddio system fwyafrifol syml, sy’n cael ei adnabod yn fwy cyffredin fel Cyntaf i'r Felin, sef y system a ddefnyddir hefyd ar gyfer ethol Aelodau i'r Cynghorau Tref a Chymuned, Senedd Cymru, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Senedd y DU. Ar hyn o bryd mae gan y Senedd system aelodau ychwanegol, yn hytrach na chael ei hethol gan system ‘cyntaf i’r felin’ yn unig. 

Rhoddodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bwerau i bob Cyngor benderfynu yn unigol a oeddent am aros gyda'r system Cyntaf i’r Felin bresennol, neu a ddylid newid i system sy’n cael ei adnabod fel y Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl (PDS).  Byddai newid o’r fath yn gofyn am benderfyniad a gefnogir gan fwyafrif o ddwy rhan o dair o Aelodau Cyngor Sir Ceredigion, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Os gwneir penderfyniad i newid i system bleidleisio PDS, byddai hyn ond yn effeithio ar y system bleidleisio ar gyfer Aelodau Cyngor Sir Ceredigion.

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau eraill a reolir gan Gyngor Sir Ceredigion, gan gynnwys y Cynghorau Tref a Chymuned, Senedd Cymru, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Llywodraeth y DU ac ni fydd y broses hon yn effeithio arnynt.

Yn ystod cyfarfod o'r Cyngor a gynhaliwyd ddydd Iau 21 Mawrth 2024, penderfynodd Cynghorwyr Sir Ceredigion gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y newid posibl i'r system bleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cyngor Sir i'r system Pleidlais Drosglwyddadwy Sengl. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cyngor yn dilyn yr ymgynghoriad.

Nod yr ymgynghoriad hwn felly yw ceisio barn ein trigolion ar eu system bleidleisio ddewisol.

Sut mae system Cyntaf i’r Felin yn gweithio? 

  • Mewn pleidlais sy'n defnyddio system Cyntaf i’r Felin lle bydd un cynrychiolydd yn cael ei ethol, mae pleidleiswyr yn gosod marc (croes fel arfer) ar y papur pleidleisio ar bwys enw'r ymgeisydd y maent yn dymuno pleidleisio drosto. 
  • Mewn ward lle ceir dau aelod, mae cyfarwyddid ar frig y papur i bleidleiswyr bleidleisio dros hyd at ddau ymgeisydd. 
  • Mae ymgeisydd yn cael ei ethol os yw'n derbyn o leiaf un neu fwy o bleidleisiau’n fwy na’r ymgeiswyr eraill. Mewn ward gyda dau aelod, bydd y ddau unigolyn sy'n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael eu hethol.
  • Mae cyfrif y pleidleisiau ar gyfer cystadleuaeth Cyntaf i’r Felin yn broses syml pan mai dim ond un ymgeisydd sydd i'w ethol.
  • Mae cyfrif y pleidleisiau ar gyfer ward dau aelod yn gofyn am system sy'n cofnodi'r pleidleisiau a roddir ar bob papur pleidleisio - caiff papurau pleidleisio eu cyfrif unwaith.
  • Mae 4 ward presennol yng Ngheredigion sy'n Wardiau â mwy nag un aelod h.y. Aberporth a'r Ferwig, Aberystwyth Penparcau, Aberystwyth Morfa a Glais a Beulah a Llangoedmor.

Sut mae Pleidlais Drosglwyddadwy Sengl (PDS) yn gweithio? 

  • Wardiau â mwy nag un aelod - bydd PDS angen wardiau sydd â mwy nag un aelod ar draws ardal yr awdurdod i gyd. Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi nodi bod nifer y cynghorwyr ar gyfer pob ward etholiadol i fod yn ddim llai na thri, ond dim mwy na 6. Bydd hyn yn golygu wardiau daearyddol mwy o faint gyda mwy o etholwyr, gyda rhwng 3 a 6 Cynghorydd yn cynrychioli pob Ward.
  • Rheolau PDS – Mae'r system PDS y manylir arni isod yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. 
  • Dylunio papur pleidleisio – byddai ymgeiswyr yn ymddangos ar bapur pleidleisio PDS yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw, fel sy'n digwydd ar bapur pleidleisio Cyntaf i’r Felin. Mae pleidleiswyr yn cael cyfarwyddyd ar frig y papur pleidleisio i raddio'r ymgeiswyr yn ôl eu trefn dewisol. 
  • Cyfrif Pleidleisiau – nid oes darpariaeth ar gyfer cyfrif electronig yn y rheolau drafft. Felly, derbynnir y bydd cyfrif etholiadau PDS yn broses hir, gyda'r cyfrif yn defnyddio PDS yn cymryd hyd at 2 ddiwrnod i'w gwblhau. 
  • Cwota (dull cyfrifo) – mae'r dull o gyfrif yn hanfodol i unrhyw system PDS. Y dull o gyfrif y darperir ar ei gyfer yw'r cwota Droop (fel y'i defnyddir mewn etholiadau yng Ngogledd Iwerddon a phrif etholiadau'r cyngor yn yr Alban). 
    Nifer y pleidleisiau i ennill sedd =  (nifer o bapurau pleidleisio dilys  / ( Nifer y seddi + 1)) + 1
  • Gwarged Trosglwyddiad – yn ystod y cyfrif, trosglwyddir pleidleisiau dros ben o'r ymgeisydd etholedig i'r ymgeisydd dewis nesaf, os oes gan yr ymgeisydd dewis cyntaf bleidleisiau sy'n fwy na'r cwota neu wedi’i ddileu. Pan fydd ymgeisydd yn derbyn pleidleisiau sy’n fwy na'r cwota, archwilir y pleidleisiau dros ben i weld a yw'r ymgeisydd dewis nesaf sydd ar gael yn dal yn y ras (heb ei ethol na'i ddileu). Caiff papurau pleidleisio eu trosglwyddo i'r dewis nesaf sydd ar gael ar werth sy'n cael ei gyfrifo drwy gymryd gwarged yr ymgeisydd a'i rannu â chyfanswm y papurau pleidleisio sy'n cael eu trosglwyddo. Mae'r broses hon yn parhau nes bod nifer briodol yr ymgeiswyr yn cael eu hethol. Mae cam ychwanegol i sicrhau nad yw gwerth pleidleisiau a drosglwyddwyd yn fwy na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafodd ei dderbyn gan yr ymgeisydd y mae'n cael ei drosglwyddo ohono nawr. Gwneir yr holl gyfrifiadau i 2 le degol felly gellir eu rheoli ar gyfer cyfrif â llaw.
  • Gwahardd ymgeiswyr - os bydd seddi gwag yn parhau ar ôl i'r broses drosglwyddo ddigwydd, mae'r rheolau'n darparu i'r ymgeisydd sydd â’r nifer isaf o bleidleisiau gael eu dileu. Yna caiff pleidleisiau'r ymgeisydd a ddilëwyd eu hailddosbarthu fesul cam. Mae'r cam cyntaf yn golygu trosglwyddo pleidleisiau dewis cyntaf yr ymgeisydd sydd wedi'i eithrio. Mae'r Swyddog Canlyniadau yn archwilio'r pleidleisiau a roddwyd i weld a roddwyd dewis nesaf, sy'n dal i fod ar gael. Mae pob pleidlais sy'n mynegi dewis nesaf ar gael yn cael ei drosglwyddo i'r ymgeisydd y rhoddir y dewis ar ei gyfer, ar werth trosglwyddo o 1.
  • Papurau pleidleisio nad ydynt yn drosglwyddadwy – mae papur pleidleisio yn dod yn anhrosglwyddadwy lle nad yw'n glir i’r Swyddog Canlyniadau pa ymgeisydd sydd nesaf yn nhrefn y dewis.
  • Seddi gwag olaf – mae'r rheolau drafft yn darparu ar gyfer llenwi'r seddi gwag diwethaf gyda'r bwriad o sicrhau nad yw’n ofynnol i'r swyddfa ganlyniadau barhau i gyfrif pan fyddai'n ddibwrpas gwneud hynny. Er enghraifft, mae'r rheol yn darparu, lle mae nifer yr ymgeiswyr sy'n dal yn y ras yn hafal i nifer y seddi gwag sy'n weddill, bod yr ymgeiswyr hynny'n cael eu trin fel rhai etholedig.
  • Ail Gyfrif – gwahaniaeth hanfodol rhwng rheolau'r Cyntaf i’r Felin a'r rheolau PDS drafft yw'r ddarpariaeth a wneir i ymgeiswyr neu asiantau etholiadol ofyn am ailgyfrif. Byddai gorfod adrodd am y bleidlais gyfan, sy'n golygu ailadrodd pob un cam, yn afresymol. Felly, lle cynhelir etholiad gan ddefnyddio PDS, mae'r ddarpariaeth ar gyfer ail-gyfrif y cam hwnnw o'r cyfrif yn unig.

Drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth i Gynghorau ystyried mabwysiadu system bleidleisio amgen, fodd bynnag, nid oes darpariaeth ariannol ar gyfer y costau ychwanegol a fyddai'n codi pe bai'r Cyngor yn penderfynu newid i system bleidleisio PDS.

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi'i gofrestru fel Rheolwr Data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir gweld ei'n bolisi preifatrwydd ar ei'n wefan.

Sut i ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Ffurflen Ymgynghoriad

Gellir cael copïau papur o'r ymgynghoriad yn y lleoliadau canlynol:

  • Llyfrgell Aberystwyth
  • Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan
  • Canolfan Lles Llambed
  • Llyfrgell Aberaeron
  • Llyfrgell Aberteifi

Diolch am gymryd yr amser i gwblhau'r ymgynghoriad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r wybodaeth rydych wedi'i darparu.  

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd adroddiad, sy'n cyfleu canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael ei lunio a'i gyflwyno i un o gyfarfodydd y Cyngor ar gyfer penderfyniad terfynol ar y ffordd ymlaen. Bydd yr adroddiad ar gael ar wefan y Cyngor ar y dudalen Ymgysylltu ac Ymgynghori.