Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg 2024-2029
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 31 Awst 2024.
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar 03/12/2024.
Adroddiad Cabinet ar Strategaeth Iaith Cymraeg Ceredigion 03.12.2024
PENDERFYNIAD:
- Nodi’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr Ymgynghoriad Cyhoeddus.
- Cymeradwyo Strategaeth Iaith Gymraeg yn ddibynnol ar y newidiadau sydd wedi’u hamlygu yn y ddogfen derfynol (atodiad 2).
- Nodi cynnwys yr Asesiad Effaith Integredig (atodiad 3).
Y rheswm dros y penderfyniad:
Sicrhau cydymffurfio gyda dyletswydd statudol yn unol ȃ gofynion Safonau’r Gymraeg, (Safon 145 a 146) i ddatblygu a chyhoeddi Strategaeth Iaith Gymraeg.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio sylwadau mewn perthynas â Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Ceredigion 2024-2029. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei chynnal am gyfnod o bump wythnos hyd at 31ain o Awst 2024.
Mae’r Strategaeth yn gosod gweledigaeth glir ar sut bydd y Cyngor, drwy weithio mewn cydweithrediad gyda sefydliadau partner eraill, yn mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn ehangach o fewn yr ardal leol.
“Rydym am weld y Gymraeg a Chymreictod yn perthyn i bob un yng
Ngheredigion ac yn destun balchder ymysg holl drigolion y sir.”
Nod y strategaeth hon fydd cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd posib ar fywyd, ynghyd ȃ dangos ffyrdd ar gyfer grymuso rhwydweithiau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg mewn ardal ddwyieithog. Nid yw’r Strategaeth hon yn medru cynnwys yr holl bethau sydd angen ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yng Ngheredigion; fodd bynnag, y nod yw bod mor realistig â phosib, yn unol ȃ’r hyn sydd o fewn maes ein dylanwad fel Fforwm Iaith Dyfodol Dwyieithog Ceredigion.
Gellir darllen y Strategaeth drafft yma: Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg 2024-2029
Sut i gymryd rhan
Gellir cael copïau papur o'r ymgynghoriad yn y lleoliadau canlynol:
- Llyfrgell Aberystwyth (Canolfan Alun R. Edwards, Maes y Frenhines, Aberystwyth SY23 2EB
- Canolfan Lles Llambed
- Llyfrgell Llambed
- Llyfrgell Aberaeron
- Llyfrgell Aberteifi
- Llyfrgell Llandysul
- Llyfrgell Cei Newydd
Darllenwch Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Ceredigion 2024-2029, ac yna rhowch eich sylwadau ar y ffurflen adborth hon: Ffurflen adborth ar-lein
Os ydych yn dymuno derbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk
Rydym yn gwerthfawrogi eich barn, a bydd eich sylwadau yn cael eu hystyried cyn i ni gyhoeddi’r Strategaeth derfynol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd adroddiad, yn cyfleu canfyddiadau'r ymgynghoriad, yn cael ei gynhyrchu a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu a'r Cabinet am gymeradwyaeth derfynol.