Ymgynghoriad ynghylch ymddiriedolaeth elusennol 'Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Ceinewydd'
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 07/05/2023.
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau ar y 29/06/2023.
Yn dilyn trafodaeth, nododd yr Aelodau yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, a PHENDERFYNWYD cyhoeddi datganiad i'r wasg a chysylltu'n uniongyrchol ag ymgyngoreion penodol (yn debyg i'r rheiny y cyfeirir atynt ym Mharagraff 2.2. yn yr adroddiad hwn) i ofyn i drigolion Ceinewydd a fyddai gan unrhyw grŵp neu sefydliad ddiddordeb mewn ymgymryd â safle’r ymddiriedolaeth at ddibenion addysgol a cheisio arian grant at y diben hwnnw. Bydd y dyddiad cau ar gyfer ymatebion un mis ar ôl cyhoeddi’r datganiad i’r wasg. Bydd adroddiad yn mynd gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Ceinewydd
Cafodd diweddariad ar yr adroddiad ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau ar y 06/11/2023.
Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Ceinewydd Adroddiad wedi'i ddiweddaru
NODODD Aelodau'r Pwyllgor yr adroddiad.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn ymddiriedolwr ar ymddiriedolaeth elusennol ‘Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Ceinewydd’ ers 1958. Mae’r ymddiriedolaeth yn berchen ar safle’r hen lyfrgell yng Ngheinewydd sydd wedi’i leoli yn Sgwâr Uplands (gweler y map a’r llun isod). Mae’r ymddiriedolaeth hefyd yn dal swm ariannol o £1,015.84.
Diben yr ymddiriedolaeth yw defnyddio’r safle fel llyfrgell ac ystafell ddarllen er budd trigolion Ceinewydd.
Mae gwasanaethau llyfrgell wedi’u darparu ar y safle ers nifer o flynyddoedd ond mae’r eiddo wedi bod yn wag ers 1 Tachwedd 2021 ar ôl i’r gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y llyfrgell, sef Llyfrgell Gymunedol Ceinewydd, symud i Neuadd Goffa Ceinewydd.
Mae Llyfrgell Gymunedol Ceinewydd a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i symud yn ôl i safle’r ymddiriedolaeth ac felly mae angen i’r Cyngor fel ymddiriedolwr, ystyried sefyllfa’r ymddiriedolaeth a’i dyfodol gan nad yw safle’r ymddiriedolaeth yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at ddibenion yr ymddiriedolaeth.
Ar 26 Medi 2022, bu Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau’r Cyngor yn ystyried a oedd achlysur cy-près wedi codi yng nghyswllt yr ymddiriedolaeth. Mae athrawiaeth cy-près yn athrawiaeth sy’n galluogi i roddion elusennol, a fyddai fel arall yn methu, gael eu dargyfeirio at ddiben elusennol cysylltiedig arall, os ceir cydsyniad y Comisiwn Elusennau. Penderfynodd y Pwyllgor fod achlysur cy-près wedi codi o dan Adran 62(1)(e)(i) o Ddeddf Elusennau 2011 (h.y. lle bo dibenion gwreiddiol yr ymddiriedolaeth, yn llwyr neu’n rhannol, ers iddynt gael eu pennu yn cael eu darparu’n ddigonol bellach drwy ddulliau eraill – yn yr achos hwn, mae’r ddarpariaeth o ran y llyfrgell bellach ar gael yn Neuadd Goffa Ceinewydd) a chynigiodd, yn amodol ar ymgynghoriad, mai’r amcanion/diben newydd y byddai’r ymddiriedolaeth yn eu cynnig i’r Comisiwn Elusennau fyddai ‘datblygu addysg trigolion Ceinewydd’.
Cyn cysylltu â’r Comisiwn Elusennau i gynnig y newid yn niben yr ymddiriedolaeth, rhaid i’r Cyngor, sef yr ymddiriedolwr, gynnal ymgynghoriad priodol fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau terfynol. O ystyried hyn, mae’r ymddiriedolaeth yn gofyn am farn y cyhoedd ynglŷn â’r diben newydd arfaethedig a’r ffordd y byddai modd defnyddio safle’r ymddiriedolaeth yn y dyfodol yn unol â’r diben newydd hwnnw.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am 10 wythnos a daw i ben ar 7 Mai 2023.
Ar ôl i’r holl ymatebion gael eu casglu ynghyd, bydd y canlyniadau yn mynd gerbron y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau er mwyn i aelodau’r Pwyllgor eu hystyried a gwneud penderfyniad.
Os ydych chi am gael mwy o wybodaeth ynglŷn â gwaith arall y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau, ewch i dudalen Pwyllgor Ymddiriedolwyr yr Elusen.
Sut mae ymateb
Ar ôl i chi ddarllen y manylion uchod am yr ymgynghoriad, gallwch lanw’r ffurflen ymateb electronig.
Gallwch chi hefyd ofyn am gopi drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk a dylech anfon eich ymateb i’r un cyfeiriad e-bost.
Os ydych chi’n dymuno i ni anfon copi papur atoch chi drwy’r post neu eich bod am gael copi o’r ffurflen mewn fformat arall, cysylltwch â clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.
Bydd copïau papur hefyd ar gael yn y llyfrgell yn Neuadd Goffa Ceinewydd a gallwch adael eich ymatebion yn y fan honno cyn dyddiad cau’r ymgynghoriad.
Os byddwch chi’n cael unrhyw anawsterau wrth ymateb, gallwch anfon neges i’r cyfeiriad e-bost uchod neu gallwch chi ffonio’r rhif uchod.
Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich sylwadau.
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 7 Mai 2023.