Arolwg Cymunedol Ceredigion - Cynigion Drafft
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 13/05/2024
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.
Bydd manylion y canlyniad yn cael eu cyhoeddi ar dudalen we Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru - Arolwg Cymunedol Ceredigion maes o law.
Ymgynghoriad Cynigion Drafft
Mae'r Comisiwn yn cynnal Arolwg Cymunedol o ardal Prif Gyngor Ceredigion, ac wedi cyhoeddi ei Gynigion Drafft.
Ar y cam hwn o’r arolwg mae’r Comisiwn yn gofyn i bawb sydd â diddordeb ystyried y Cynigion Drafft (gweler y ddolen isod) a chyflwyno eu barn ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen er mwyn creu cymunedau sy’n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Yna bydd pob cyflwyniad yn cael ei ystyried, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad Argymhellion Terfynol neu Adroddiad Drafft Pellach (a bydd yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion hynny os cyhoeddir adroddiad drafft pellach).
Bydd yr Argymhellion Terfynol yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru wedyn, os gwêl yn dda, yn rhoi effaith i’r argymhellion hyn naill ai fel y’u cyflwynwyd, neu gydag addasiadau.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, anfonwch eich barn drwy e-bost at:
neu yn y post i:
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Ty Hastings
Fitzalan Place
Caerdydd
CF24 0BL
Am fwy o wybodaeth ac i weld yr adroddiad drafft ewch i dudalen we Arolwg Cymunedol Ceredigion - Cynigion Drafft.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yn cynnal Arolwg Cymunedol o ardal Prif Gyngor Ceredigion, ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
Cam cyntaf yr adolygiad yw gofyn i bawb sydd â diddordeb ystyried y ffiniau cymunedol presennol a chyflwyno eu barn ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i greu cymunedau sy'n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Comisiwm Ffiniau a Democratiaeth Leol (Dolen i wefan allanol).
Yna bydd pob cyflwyniad yn cael ei ystyried, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi Adroddiad Cynigion Drafft ac yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion hynny. Yna bydd pob cyflwyniad yn cael ei ystyried, a bydd Argymhellion Terfynol yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedyn, os gwêl yn dda, yn rhoi effaith i’r argymhellion hyn naill ai fel y’u cyflwynwyd, neu gydag addasiadau.
Mae’r cyfnod ymgynghori cychwynnol yn agor ar 9 Mai 2023 ac yn cau ar 3 Gorffennaf 2023.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, anfonwch eich barn drwy e-bost at:
neu yn y post i:
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Ty Hastings
Llys Fitzalan
Caerdydd
CF24 0BL
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ddydd Llun 3 Gorffennaf 2023.