Skip to main content

Ceredigion County Council website

Arolwg Cefnogi Menter

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Mae Rhaglen Safleoedd ac Eiddo Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyhoeddi arolwg er mwyn deall yn well gynlluniau busnesau ar draws y rhanbarth ar gyfer tyfu yn y dyfodol a'u hangen am eiddo masnachol.

Nod yr arolwg yw nodi'r angen am ymyrraeth ar ffurf cyllid yn y farchnad leol ar gyfer safleoedd ac eiddo masnachol. Bydd yr ymatebion i'r arolwg yn galluogi Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n rheoli Bargen Twf Canolbarth Cymru, i ystyried amrywiaeth o opsiynau o ran cymorth, a allai helpu busnesau i gyflawni eu nodau o ran datblygu.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru am gasglu cynifer o ymatebion ag sy'n bosibl fel y gellir dadansoddi'r data sy'n dod i law er mwyn deall y galw am gymorth. Yna, bydd Tyfu Canolbarth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i adolygu'r opsiynau a gweld beth yw eu hyd a'u lled.

Bydd yr arolwg ar agor tan 9fed o Awst 2024 a chaiff pob busnes ei annog i gymryd rhan. I gymryd rhan, ewch i: https://bit.ly/SupportingEnterpriseSurvey (Defnyddiwch y gwymplen 'English' ar y dde i newid i'r ffurflen Gymraeg)