Cwynion am Gynghorwyr Sir/Cynghorwyr Tref a Chymuned
Mae’n ofynnol i Gynghorwyr Sir, Cynghorwyr Tref a Chymuned ac Aelodau Cyfetholedig weithredu’n unol â’r Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr y mae eu Cyngor penodol hwy wedi’i fabwysiadu, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion gorfodol y Côd Ymddygiad Enghreifftiol a gyhoeddwyd gan y Cynulliad.
Os oes gennych chi gŵyn sy’n honni fod Cynghorydd Sir wedi mynd yn groes i’r Côd, gallwch ei anfon at yr Ombwdsmon yn uniongyrchol a/neu at Swyddog Monitro’r Cyngor.
Ar wefan yr Ombwdsmon ceir canllawiau ar wneud cwyn am aelod etholedig, yn ogystal â thaflen wybodaeth.
Gallai’r Ombwdsmon benderfynu y dylai’r Swyddog Monitro ymchwilio i’r gŵyn, neu gallai ofyn i Bwyllgor Moeseg a Safonau’r Cyngor benderfynu ar y mater. Os aiff y gŵyn gerbron y Pwyllgor Moeseg a Safonau, gallant benderfynu peidio â gweithredu ymhellach, rhoi cerydd, neu wahardd Cynghorydd am hyd at chwe mis.
Os bydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i honiad o fynd yn groes i’r Côd, ac yn dod i’r casgliad fod sail i’r honiad hwnnw, bydd yn anfon adroddiad ar ei gasgliadau at y Swyddog Monitro a’r Cynghorydd dan sylw.
Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod y mater yn un difrifol, gall anfon y gŵyn ymlaen i Banel Dyfarnu Cymru, sy’n meddu ar y grym i wahardd Cynghorydd am hyd at bum mlynedd.
Os ydych chi am wneud cwyn i’r Ombwdsmon, ysgrifennwch at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5LJ. Fel arall, gallwch eu ffonio ar 0300 790 0203 (cyfradd galwadau lleol) neu anfonwch e-bost i holwch@ombwdsmon.cymru. Gallwch hefyd ymweld â'u gwefan, sef www.ombwdsmon.cymru.
Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Monitro’r Cyngor gan ysgrifennu at Y Swyddog Monitro, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA. Gallwch hefyd anfon e-bost atom ar swyddogmonitro@ceredigion.gov.uk.