Skip to main content

Ceredigion County Council website

Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion

Nod Cyngor Sir Ceredigion yw darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid, gan gynnwys gwybodaeth gywir a chyfoes, ac yn ein Siarter Y Cwsmer mae’r Cyngor yn gosod y safonau y mae’n bwriadu eu cyflawni.

Gall cwsmeriaid gyflwyno sylwadau, canmoliaeth neu gwynion yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn unol â'u dewis iaith, drwy ddefnyddio’r ffurflenni dwyieithog ar-lein, codi’r ffôn, neu anfon llythyr neu e-bost.

Rydyn ni’n addo gwrando’n gwrtais a cheisio deall anghenion ein cwsmeriaid, a helpu dod o hyd i ffyrdd o fodloni’r anghenion hynny. Rydyn ni’n addo parchu ein cwsmeriaid, bod yn deg ac yn onest bob cam o’r ffordd, a chydnabod ein camgymeriadau a dysgu ohonynt pan fyddwn ni wedi gwneud rhywbeth o’i le.

Unrhyw sylw sydd gennych am ffyrdd i’r Cyngor wella’r modd y mae’n darparu gwasanaethau a/neu’n gofalu am ei gwsmeriaid.

Mae canmoliaeth yn fynegiant o ganmoliaeth am lefel uchel o ddarpariaeth gwasanaeth a/neu ofal cwsmer a dderbyniwyd, a ddarperir gan y Cyngor neu gan berson sy'n gweithredu ar ran y Cyngor. Mae pob canmoliaeth a dderbynnir gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn cael ei chofnodi a'i monitro'n rheolaidd.

Defnyddir adborth cadarnhaol o'r fath i rannu a hyrwyddo arfer da lle bynnag y bo modd. Mae canmoliaeth yn ffynhonnell o anogaeth bod staff y Cyngor yn darparu gwasanaeth gwerthfawr ac o safon uchel a diolchwn i chi am roi o'ch amser i rannu eich profiad gyda ni.

Lansio'r ffurflen Canmoliaeth ar-lein

Nid yw cwyn yn golygu:

  • sôn am rywbeth sydd o’i le, er enghraifft, golau stryd wedi torri
  • cais cyntaf am wasanaeth, er enghraifft, gofyn am glirio sbwriel wedi’i dipio’n anghyfreithlon
  • cais cyntaf am wybodaeth, neu esboniad o bolisïau a phenderfyniadau’r Cyngor
  • sylwadau am rinweddau penderfyniadau a pholisïau’r Cyngor
  • herio ‘penderfyniad a wnaed yn briodol’ lle mae hawl statudol i apelio
  • ffordd o lobïo neu ymgyrchu dros newid mewn deddfwriaeth

Yn unol â Pholisi Pryderon a Chwynion y Cyngor, mae cwyn yn golygu aelod neu aelodau o’r cyhoedd yn mynegi anfodlonrwydd â gweithredu’r Cyngor neu ddiffyg gweithredu, neu am ansawdd y gwasanaeth y mae’r Cyngor yn ei ddarparu – neu wasanaeth a ddarperir gan gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Cyngor.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r drefn gwyno, ewch i’r dudalen berthnasol:

Fel arall, cysylltwch â Thîm Cwynion y Cyngor drwy ysgrifennu at Miss Marie-Neige Hadfield, Rheolwr Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE. Neu dros y ffôn ar 01545 574151 neu drwy e-bost: cwynion@ceredigion.llyw.cymru.

Pethau eraill i’w cadw mewn cof

  • Mae staff y Cyngor yn medru helpu cwsmeriaid i wneud cwyn ysgrifenedig. Fel arall, gallech ofyn i ffrind, Cynghorydd, Aelod Cynulliad, Aelod Seneddol neu fudiad fel Cyngor yr Henoed neu Cyngor ar Bopeth roi help llaw ichi, neu weithredu ar eich rhan. Bydd y weithdrefn a nodir yn y polisi hwn yn union yr un fath
  • Mae’n gallu bod yn anodd ymchwilio i gwynion ar ôl i beth amser fynd heibio, ac felly mae’r Cyngor yn disgwyl i gwsmeriaid godi unrhyw gwynion ymhen chwe mis (o dan y Polisi Corfforaethol) neu ddeuddeg mis (o dan Bolisi’r Gwasanaethau Cymdeithasol) ar ôl dod i wybod am y broblem. Ni fydd y cyngor yn ymchwilio i unrhyw gwynion hŷn na hynny, oni bai fod amgylchiadau arbennig yn berthnasol
  • Os bydd unrhyw gŵyn yn ymwneud â nifer o wahanol wasanaethau’r Cyngor, rhoddir un ymateb cydlynol lle bynnag y bo modd
  • Caiff unrhyw gwynion dienw eu trafod â rheolwr y Gwasanaeth er mwyn penderfynu a ddylid ymchwilio i’r mater, ac a oes digon o wybodaeth ar gael i wneud hynny. Os derbynnir cwyn yn ddienw, ni fydd modd i’r Cyngor roi ymateb ar ôl cwblhau unrhyw ymchwiliad
  • Ni fydd gweithwyr y cyngor yn cyfrannu at fforymau agored ar y we, nac yn ymateb i unrhyw sylwadau (ar ran y Cyngor)
  • O bryd i’w gilydd bydd cwsmer yn pledio’i achos mewn ffordd sy’n rhwystro’r Cyngor rhag ymchwilio i’r gŵyn neu’n golygu bod y Cyngor yn gorfod defnyddio llawer iawn o adnoddau wrth ymdrin â’r materion a godwyd. Felly, lluniwyd y Polisi ar gyfer Gweithredu Afresymol gan Ddefnyddwyr Gwasanaethau er mwyn sicrhau nad yw cwsmeriaid fel hyn yn amharu ar wasanaethau’r Cyngor, a hefyd i sicrhau bod gweithwyr y Cyngor yn cael eu trin yn barchus gan y cyhoedd, yn unol â’u hawliau a’u disgwyliadau