Rheoli Risgiau
Mae’r Polisi a’r Strategaeth Rheoli Risgiau yn darparu fframwaith a phroses gynhwysfawr gyda’r bwriad o gefnogi’r Aelodau a’r Swyddogion wrth iddynt sicrhau bod y Cyngor yn medru cyflawni ei holl gyfrifoldebau o ran rheoli risgiau.
Mae’r polisi yn amlinellu amcanion a manteision rheoli risgiau gan ddisgrifio’r cyfrifoldebau ar gyfer rheoli risgiau a darparu trosolwg o’r broses sydd ar waith gennym i reoli risgiau yn llwyddiannus.
Bydd rheoli risgiau yn effeithiol, yn helpu sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y gorau o’i chyfleoedd a lleihau effaith y risgiau mae’n wynebu, felly yn gwella eu gallu i gyflawni blaenoriaethau a gwella canlyniadau i breswylwyr. Bydd y Cyngor yn adolygu'r polisi a'r strategaeth o leiaf bob tair blynedd a chaiff unrhyw newidiadau i’r polisi hwn eu hadolygu gan y Pwyllgor Archwilio cyn i’r Cabinet eu cymeradwyo.
Mae’r Polisi a Strategaeth yma wedi’i danategu gan ddogfen Fframwaith Rheoli er mwyn cadarnhau bod amcanion Polisi Rheoli Risg y Cyngor yn cael i’w sylweddoli.