Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi dod â deddfau gwrthwahaniaethu ynghyd, megis Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005, Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1986.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (sef y ‘ddyletswydd gyffredinol). Daeth hon i rym ar 5 Ebrill 2011.
Nod y ddyletswydd gyffredinol yw sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a’r bobl hynny sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallant gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy ddatblygu cydraddoldeb a pherthnasau da yn eu gwaith bob dydd. Mae’r ddyletswydd hon yn sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb yn rhan annatod o gynllunio polisïau a chyflawni gwasanaethu a’u bod yn cael eu hadolygu gyda’r nod o gael canlyniadau gwell i bawb.
Mae gofyn i Gyngor Sir Ceredigion roi sylw dyledus i’r angen i:
- Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid anghyfreithlon, ac ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd dan y Ddeddf
- Ehangu cyfle cyfartal rhwng pobl â nodweddion gwarchodedig a phobl hebddynt
- Meithrin perthnasau da rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a phobl sydd ddim
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn egluro bod rhoi sylw dyledus i ddatblygu cydraddoldeb yn cynnwys:
- Cael gwared ar neu finimeiddio’r anfanteision mae pobl yn eu hwynebu oherwydd eu nodweddion gwarchodedig
- Cymryd camau i gyflawni anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle mae anghenion y bobl hyn yn wahanol i anghenion pobl eraill
- Annog pobl â nodweddion gwarchodedig i gyfrannu’n llawn at fywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle mae cyfran annodweddiadol o isel o bobl benodol yn cymryd yn rhan
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn disgrifio meithrin perthnasau da fel mynd i’r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a phobl hebddynt. Gallai cyflawni’r ddyletswydd hon gynnwys trin rhai pobl yn fwy ffafriol nag eraill, cyn belled nad yw hyn yn mynd yn groes i ddarpariaethau eraill y Ddeddf.