Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwrthderfysgaeth ac Eithafiaeth

Gwrthderfysgaeth, Prevent a’r Panel Channel

Beth yw Prevent?

Rhaglen genedlaethol yw Prevent a’i nod yw atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae’n gweithredu er mwyn sicrhau bod pobl sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio yn cael cynnig ymyraethau addas, a bod cymunedau’n cael eu diogelu rhag dylanwadau radicaleiddio.

Gall radicaleiddio ddigwydd pan fo person yn datblygu safbwyntiau eithafol neu gredoau sy’n cefnogi gweithgareddau neu grwpiau terfysgol.

Mae llawer o ffyrdd y gallai person gael ei radicaleiddio, a gall pobl ddod ar draws dylanwadau radicaleiddio wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Os ydy rhywun rydych chi’n ei adnabod yn mynegi safbwyntiau eithafol neu gasineb ac rydych chi eisiau cyngor, ewch i Mynnwch help os ydych chi'n gofidio bod rhywun yn cael ei radicaleiddio - GOV.UK (www.gov.uk)

Amcanion y Ddyletswydd Prevent yw:

  • Mynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth;
  • Ymyrryd yn gynnar i gefnogi pobl sy’n agored i radicaleiddio;
  • Galluogi pobl sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn terfysgaeth i ymddieithrio ac adsefydlu.

Mae rhan o’r Ddyletswydd Prevent hefyd yn cynnwys:

  • Hyfforddiant ar gyfer staff rheng-flaen ynghylch adnabod, atgyfeirio ac ymateb i radicaleiddio;
  • Prosiectau i adeiladu capasiti, gwella cydnerthedd a gwella’r ddealltwriaeth o eithafiaeth a radicaleiddio gyda phartneriaid megis ysgolion, colegau, staff rheng-flaen a grwpiau cymunedol.
  • Gwasanaeth atgyfeirio ar gyfer pryderon, o’r enw Channel, sy’n gweithredu fel gwasanaeth ymyrraeth gynnar i ddiogelu unigolion sy’n agored i niwed rhag cael eu radicaleiddio.

Os ydych chi’n gweithio gyda phobl sy’n agored i gael eu radicaleiddio mewn lleoliad y tu allan i’r ysgol, megis sefydliadau ieuenctid, sesiynau chwaraeon, a gwersi cerddoriaeth, ac rydych eisiau dysgu mwy am sut i gynnig cymorth, ewch i https://www.support-people-susceptible-to-radicalisation.service.gov.uk/cy, https://actearly.uk/ neu cysylltwch â’r Adran Diogelwch Cymunedol am gyngor pellach.

Panel Sianel Ceredigion:

Fel amddiffyn plant, mae Sianel yn rhaglen ddiogelu amlasiantaethol sy’n weithredol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Ei nod yw cefnogi pobl sy'n agored i niwed rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth ac mae'n darparu amrywiaeth o gymorth megis mentora, cwnsela, cymorth gyda chyflogaeth ac ati. Mae Sianel yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar er mwyn amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag cael eu tynnu i mewn i gyflawni gweithgareddau cysylltiedig â therfysgaeth, ac mae’n mynd i’r afael â phob math o eithafiaeth.

Mae cymryd rhan yn Sianel yn wirfoddol. Yr unigolyn, neu rieni plant 17 mlwydd oed ac iau, sydd biau’r penderfyniad a ddylid manteisio ar y cymorth a gynigir. Nid yw cymryd rhan yn Sianel yn arwain at gofnod troseddol.

Cadeirydd y Panel Sianel lleol yw Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, Sicrhau Ansawdd a Diogelu, Cyngor Sir Ceredigion.

Os oes gennych unrhyw bryderon am rywun ac yr hoffech gael mwy o gyngor, cysylltwch â:

Diogelu Cyngor Sir Ceredigion - 01545 574 000 (y tu mewn i oriau gwaith) 0300 4563554 (y tu allan i oriau gwaith).

Heddlu Dyfed Powys - Os ydych chi'n teimlo bod y mater yn un brys, cysylltwch â'r Wifren Gwrthderfysgaeth gyfrinachol ar 0800 789321, neu os bydd argyfwng, deialwch 999.