Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hyfforddiant Gwrthderfysgaeth

Mae e-Ddysgu Ymwybyddiaeth ACT yn gynnyrch ymwybyddiaeth gwrthderfysgu newydd a ddyluniwyd ar gyfer pob cwmni a sefydliad yn y DU ac sydd ar gael i'r cyhoedd.

Wedi'i ddyfeisio gan swyddogion gwrthderfysgu ac arbenigwyr diogelwch, roedd pecyn e-Ddysgu Ymwybyddiaeth ACT ar gael o'r blaen i staff sy'n gweithio mewn lleoedd gorlawn fel canolfannau siopa a lleoliadau adloniant. Nawr mae Plismona Gwrthderfysgaeth wedi penderfynu agor yr hyfforddiant i unrhyw un sydd am ddod yn Ddinesydd gwrthderfysgaeth fel y gallant ddysgu sut i adnabod arwyddion ymddygiad amheus a deall beth i'w wneud pe bai digwyddiad mawr.

Bydd e-Ddysgu Ymwybyddiaeth ACT yn darparu arweiniad gwrthderfysgu corfforaethol a gydnabyddir yn genedlaethol i helpu pobl i ddeall, a lliniaru yn erbyn, y fethodoleg derfysgol gyfredol yn well.

I gael mynediad at y modiwl dysgu ewch i wefan Protect UK.