Codi Ymwybyddiaeth o Droseddau Bregusrwydd
Mae person yn fregus neu’n agored i niwed os na all amddiffyn ei hun rhag niwed neu gam-fanteisio oherwydd ei amgylchiadau personol neu sefyllfaol.
Helpwch ni i roi stop ar droseddau bregusrwydd, i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed, ac i gadw cymunedau Ceredigion yn ddiogel.
Gall unrhyw un ddod yn agored i niwed neu ddioddef trosedd, ar unrhyw adeg, oherwydd eu amgylchiadau personol neu sefyllfaol.
Gallai amgylchiadau personol gynnwys:
- Anabledd
- Ethnigrwydd
- Rhyw
- Problemau iechyd meddwl
- Crefydd
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Oedran
Gallai amgylchiadau sefyllfaol gynnwys:
- Salwch
- Colli swydd
- Dyled
- Ynysu
- Diffyg pŵer
- Diffyg cymorth
- Problemau ariannol
- Presenoldeb camdriniwr (corfforol, emosiynol, rhywiol neu ariannol)
- Camddefnyddio alcohol a sylweddau
Beth yw troseddau bregusrwydd?
Gallai mathau o droseddau bregusrwydd gynnwys, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i:
- Cam-drin domestig
- Sgamiau a thwyll
- Llinellau Sirol (lle mae cyffuriau anghyfreithlon yn cael eu cludo o un ardal i'r llall gan bobl agored i niwed sy'n cael eu gorfodi gan gangiau)
- Cogio (lle mae gwerthwyr yn cymryd drosodd eiddo sy'n eiddo i berson sy'n agored i niwed ac yn ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer ei weithgarwch troseddol)
... a llawer mwy.
Beth yw’r arwyddion?
Ni allwch bob amser sylwi ar ddioddefwr trosedd bregusrwydd. Ond gallwch helpu i adnabod yr arwyddion.
Ymhlith rhai o’r arwyddion i gadw golwg amdanynt o ran dioddefwr posibl mae:
- Ymddangos yn bryderus neu’n ofnus
- Ymddwyn yn anghymdeithasol
- Tor perthynas
- Dillad ac eiddo newydd
- Gweithgaredd nosol
- Dirywiad yn safon gwaith ysgol
- Defnyddio cyff uriau neu alcohol
- Niwed corff orol
- 'Ffrindiau' newydd
- Pobl yn mynd a dod o gyfeiriad
Sut i roi gwybod am drosedd bregusrwydd
Mae gan Geredigion un o’r cyfraddau troseddu isaf yn y DU, ond mae angen eich help arnom i’w gadw felly. Os nad yw rhywbeth yn ymddangos yn iawn, fel arfer nid yw. Gallwch roi gwybod am eich pryderon yn y ffyrdd canlynol:
Os yw rhywun mewn perygl uniongyrchol a bod angen cymorth arnoch ar unwaith:
- Galwch yr Heddlu ar 999
Os nad yw’n argyfwng, ond eich bod am drafod gyda’r Heddlu:
- Ffoniwch 101
- Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch y gwasanaethau ffôn testun ar 18001 101 neu 07811 311 908
- E-bostiwch 101@dyfed-powys.pnn.police.uk
- Ewch i www.dyfed-powys.police.uk
- Siaradwch â’ch Tîm Plismona Bro lleol
Er mwyn rhoi gwybod, yn ddienw, am drosedd neu ymddygiad amheus, cysylltwch â Crimestoppers:
- Ffoniwch 0800 555 111
- Ewch i crimestoppers-uk.org (dewis y iaith Gymraeg)
Os ydych chi’n credu y gallech fod yn ddioddefwr trosedd, cysylltwch â Chymorth i Ddioddefwyr Dyfed-Powys:
- Ffoniwch Goleudy, eich tîm gofal dioddefwyr lleol yn Nyfed-Powys ar 0300 123 2996 rhwng 10yb – 6yh, dydd Llun i ddydd Sadwrn
- E-bostiwch goleudy@dyfed-powys.pnn.police.uk
- Os ydych chi angen cymorth y tu allan i oriau agor, ffoniwch Supportline Cymorth i Ddioddefwyr am ddim ar 08 08 16 89 111 neu gofynnwch am gymorth trwy’r wefan www.victimsupport.org.uk (Saesneg yn unig)
Adnoddau
- Taflen ddwyieithog Ymwybyddiaeth Troseddau Bregusrwydd
- Taflen hawdd ei ddeall Ymwybyddiaeth Troseddau Bregusrwydd
Modiwl e-Ddysgu Troseddau Bregusrwydd
Os hoffech ddysgu rhagor am droseddau bregusrwydd, gall y modiwl eDdysgu hwn eich helpu i ddeall beth sy’n gwneud person yn fregus, pa fath o droseddau gall ei bod yn dioddef a beth i'w wneud os ydych yn poeni am rywun gall fod yn dioddef o drosedd bregusrwydd. Er mwyn cael mynediad i'r cwrs, ymweld â'r wefan Learning@Wales a mewngofnodwch fel ymwelydd.
Cymorth pellach
Os ydych chi’n byw yng Ngheredigion, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y grwpiau canlynol sydd yma i’ch helpu:
- Our Voice Our Choice (Saesneg yn unig)
- Dyfed-Powys Victim Support
- Age Cymru Dyfed
- RABI – Helping Farming People (Saesneg yn unig)
- Advocacy West Wales (Saesneg yn unig)
- Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion