Gwneud cais i bleidleisio drwy’r post ar gyfer Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau y Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Gallwch wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy’r post yn Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Gofynnir i chi ddarparu:
- y cyfeiriad lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio, a
- eich rhif Yswiriant Gwladol neu ddogfennau adnabod eraill, er enghraifft pasbort
Bydd angen i chi hefyd lwytho llun o’ch llofnod mewn llawysgrifen mewn inc du ar bapur gwyn plaen (dim bapur llinellau).
Os na allwch ddarparu llofnod neu un sydd bob amser yn edrych yr un peth, efallai y gallwch wneud cais am hepgoriad llofnod pleidlais bost o fewn y gwasanaeth.
Efallai y gofynnir i chi am ddogfennau ychwanegol i’ch adanbod.
Bydd angen i chi adnewyddu’r llofnod ar eich cais am bleidlais drwy’r post bob 3 mlynedd.
Gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu ffurflen bapur i wneud cais i bleidleisio drwy’r post ar gyfer Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig a’r Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen hon a’i hafnon atom trwy e-bost neu drwy’r post.
Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen hon, gallwch gysylltu ȃ ni i ofyn am argraffiad o’r ffurflen hon.
Dysgwch fwy am bleidleisio drwy'r post ar tudalen How to vote: Voting by post y Llywodraeth.