Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau y Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Os na allwch chi bleidleisio’n bersonol gallwch chi ofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan. Pleidlais drwy ddirprwy yw’r enw ar hyn.
Gallwch wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy ddirprwy yn Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau y Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu ffurflen bapur i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer Eholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau y Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen hon a’i hafnon atom trwy ebost neu drwy’r post.
Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen hon, gallwch gysylltu ȃ ni i ofyn am argraffiad o’r ffurflen hon.
Beth i’w wneud os byddwch yn methu’r terfyn amser i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy
Os gwnaethoch chi fethu’r terfyn amser ar gyfer y bleidlais drwy ddirprwy, efallai y gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy brys os ydych chi’n:
- methu ȃ phleidleisio’n bersonol oherwydd eich cyflogaeth neu anabledd ac
- y dathoch yn ymwybodol o’r rheswm hwn ar ôl y terfyn amser i bleidleisio drwy ddirprwy
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy brys ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.
Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen, ei llenwi, ei llofnodi, a’i hanfon atom drwy e-bost.