Pleidleisio yn Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
O fis Mai 2023, bydd angen i chi ddangos llun adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
I gael rhagor o wybodaeth am ba ID llun y gallwch ei ddefnyddio, ewch i'n tudalen Dangos Dogfen Adnabod i Bleidleisio.
Cofrestru i Bleidleisio
Ma modd cofrestru i bleidleisio ar-lein gan ymweld a tudalen Cofrestru i bleidleisio y Llywodraeth.
Pleidleisio drwy’r Post neu drwy Ddirprwy
O 31 Hydref 2023, byddwch yn gallu gwneud cais ar-lein i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy (rhywun sy’n pleidleisio ar eich rhan) ar gyfer Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Sut i wneud Cais
- Gwneud cais i bleidleisio drwy’r post ar gyfer Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau y Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
- Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau y Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Cysylltu ȃ Ni
Os oes angen help arnoch gyda’ch cysylltwch ȃ ni gan ysgrifennu at Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA. Drwy ebost, gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk, neu dros y ffôn, 01545 572032.