Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cyflogadwyedd
Pam y mae angen eich gwybodaeth chi arnom (pwrpas prosesu)?
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â’r modd y bydd Cynllun Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion yn casglu a defnyddio data personol er mwyn eich cynorthwyo chi pan fyddwch chi’n cymryd rhan yn ein cynllun.
Byddwn yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn gallu:
- Asesu pa brosiect cyflogadwyedd rydych chi’n gymwys ar ei gyfer ac sy’n siwtio’ch anghenion chi orau
- Darparu’r wybodaeth, cyngor ac arweiniad diweddaraf
- Monitro’r cymorth a’r gwasanaethau a ddarperir i’n cwsmeriaid.
- Rhannu gwybodaeth gydag adrannau mewnol a sefydliadau allanol priodol i sicrhau bod yna gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau diogelu os yw’n ofynnol.
- Tystio i’ch cymhwysedd ar gyfer cymorth ariannol drwy ein prosiectau a ariannir gan grantiau, fel a ganlyn:
- Gweithffyrdd+ - wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Nedd Port Talbot, ac wedi’i reoli’n lleol gan Gyngor Sir Ceredigion
- Gweithffyrdd+ STU - wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Nedd Port Talbot, ac wedi’i reoli’n lleol gan Gyngor Sir Ceredigion
- Cymunedau am Waith a Mwy - wedi’i ariannu drwy Lywodraeth Cymru a’i reoli’n lleol gan Gyngor Sir Ceredigion
Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?
Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni byddwn yn prosesu’r mathau canlynol o wybodaeth, gan brosesu beth sy’n angenrheidiol ac yn gymesur yn unig:
- Bywgraffyddol (enw, cyfeiriad ac ati)
- Demograffeg
- Sefyllfa economaidd bresennol (budd-daliadau a dderbynnir, sefyllfa a manylion cyflogaeth)
- Os yn gymwys, manylion y cymorth a dderbynnir gennych ar hyn o bryd a pha gymorth sydd ei angen neu yr hoffech ei gael
- Y rhwystrau sy’n eich atal rhag symud ymlaen gyda chyflogaeth neu hyfforddiant.
Mewn rhai achosion gall fod angen inni ofyn ichi am ddata ychwanegol neu rannu mwy o ddata sensitif megis manylion am eich iechyd neu anabledd. Gelwir hwn yn ddata categori arbennig a chaiff ei brosesu pan fo angen gwneud hynny’n unig.
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data personol?
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data yw bod ei angen er mwyn eich cynorthwyo wrth ichi gymryd rhan yn ein cynllun.
Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data (GDPR) yn gofyn bod amodau penodol yn cael eu bodloni i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu’n gyfreithlon. Mae’r amodau perthnasol hyn fel a ganlyn:
- Erthygl 6 (1)(e) – mae’r prosesu’n angenrheidiol er mwyn perfformio tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolwr;
Gwaherddir prosesu categorïau arbennig o ddata personol, gan gynnwys data sy’n ymwneud ag iechyd yr unigolyn, oni bai bod amodau arbennig pellach yn cael eu bodloni. Mae’r amodau ar gyfer prosesu data o’r fath fel a ganlyn:
- Erthygl 9 (2)(g) - mae’r prosesu’n angenrheidiol am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol, ar sail deddfau’r Undeb neu’r Aelod Wladwriaeth sy’n gymesur â’r amcan a geisir, sy’n parchu hanfod yr hawl i amddiffyn data ac sy’n darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddiannau gwrthrych y data;
Yr amod prosesu er budd sylweddol y cyhoedd a nodwyd yw bod y prosesu’n angenrheidiol at ddibenion statudol a llywodraethol.
Rydym yn prosesu eich data categori arbennig am ei fod yn ofyniad i sicrhau ein bod yn darparu Cyfleoedd Cyfartal ac yn mynd i’r afael â rhwystrau a allai eich atal chi rhag symud ymlaen. Fe’i defnyddir hefyd i sicrhau bod unrhyw gymorth, profiad gwaith, hyfforddiant, gwirfoddoli neu gyflogaeth yn briodol ac yn cwrdd â’ch anghenion iechyd a lles.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth?
I’n galluogi i’ch cefnogi chi a darparu cymorth mi fydd angen inni rannu eich gwybodaeth bersonol â phartïon eraill. Bydd y rhain yn cynnwys:
- Gweithffyrdd+
- Gweithffyrdd+STU
- Cymunedau am Waith a Mwy
- Llywodraeth Cymru
- Swyddfa Gyllid Llywodraeth Cymru
- Y Comisiwn Ewropeaidd
- Timau a gwasanaethau eraill Cyngor Sir Ceredigion, er enghraifft Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai.
Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i amddiffyn y gronfa gyhoeddus mae’n ei rheoli. Felly, gall yr wybodaeth rydych wedi’i darparu gael ei defnyddio i atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwiliadau ariannol mewnol ac allanol.
Am ba mor hir fydd fy nata personol yn cael ei gadw gan y Cyngor?
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cadw’ch gwybodaeth am mor hir ag sydd angen yn unig. Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw’n ddiogel ac yn unol ag Amserlen Gadw Cyngor Sir Ceredigion a/neu Ganllawiau Cadw Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sydd i’w gweld drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru Rheolau Cymhwystra.
Byddwn yn cael gwared â’ch gwybodaeth mewn ffordd ddiogel yn ddi-oed pan na fydd ei hangen bellach. Os ydych chi am gael manylion pellach am y cyfnodau cadw, cysylltwch â thîm Cyflogadwyedd Ceredigion drwy’r manylion cyswllt a geir ar dop yr hysbysiad.
Eich hawliau
Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau, gan gynnwys:
- Eich hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn inni gywiro gwybodaeth sy’n anghywir yn eich tyb chi. Mae gennych yr hawl hefyd i ofyn inni gwblhau gwybodaeth sy’n anghyflawn yn eich Tyb chi;
- Mewn rhai amgylchiadau (e.e. lle mae’r cywirdeb yn cael ei gwestiynu), yr hawl i ofyn am gyfyngu ar brosesu’ch data personol;
- Mewn rhai amgylchiadau mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu’ch data personol;
- Mae gennych hawl mynediad - mae gennych yr hawl i ofyn inni am gopïau o’ch data personol. I wneud cais, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, SY23 3UE new e-bostiwch data.protection@ceredigion.gov.uk
Cwynion ac Ymholiadau
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn darparu manylion cyflawn holl agweddau ein dull o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn barod i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad pellach angenrheidiol. Dylid anfon unrhyw geisiadau o’r fath i’r cyfeiriad canlynol, Y Swyddog Diogelu Data, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, SY23 3UE neu e-bostiwch data.protection@ceredigion.gov.uk.