Hysbysiad Preifatrwydd Panel Pobl Ceredigion
Mae'n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion, fel awdurdod cyhoeddus, ystyried sut y bydd y penderfyniadau y mae'n eu gwneud yn effeithio ar bob grŵp yn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Er mwyn gwneud hyn, mae'r Cyngor wedi sefydlu Panel Bobl, sy'n prosesu data personol fel y nodir yn yr hysbysiad hwn.
Rydym yn casglu gwybodaeth monitro cydraddoldeb i sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant ym Mhanel Bobl, gan gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, a gwella ein harferion.
Ar ôl casglu, bydd eich data yn cael ei drefnu’n ddienw a’i ddefnyddio ar gyfer y canlynol:
• Adrodd ar ystadegau cyfanredol
• Sicrhau bod y panel yn adlewyrchu poblogaeth Cymru o ran oedran, rhyw a nodweddion demograffig eraill
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:
Mae prosesu Erthygl 6 (e) UKGDPR yn angenrheidiol i ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd a freiniwyd yn y rheolwr.
Y deddfiadau neu'r rheolau cyfraith y dibynnir arnynt yw:
Neddf Cydraddoldeb 2010
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
Mae Panel Bobl yn galluogi'r Awdurdod i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'i Ddyletswydd Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae deddfwriaeth ychwanegol yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Cefnogi'r Ddeddf Cydraddoldeb, Deddf Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Pan fo data categori arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithlon fydd:
Mae prosesu Erthygl 9 (2) (g) UKGDPR yn angenrheidiol am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.
Yr amod prosesu budd cyhoeddus sylweddol fydd:
Yr amodau prosesu budd y cyhoedd y dibynnir arnynt yw 6 (dibenion statudol a llywodraethol) ac 8 (cyfle cyfartal neu driniaeth).
Drwy greu Panel Bobl, rydym yn ymgysylltu â grŵp o drigolion yng Ngheredigion sydd â diddordeb mewn cyfrannu at y broses ddemocrataidd. Mae dyletswydd arnom i geisio barn trigolion wrth weithredu newidiadau polisi – mae hyn yn ehangiad o'n gwaith presennol i wella'r ffordd rydym yn Ymgysylltu ac yn Ymgynghori.
Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, ni fyddwch yn gallu ymuno Panel Pobl Ceredigion
Byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch:
· Oed
· Rhywedd
· Ethnigrwydd
· Cyfeiriadedd Rhywiol
· Statws Anabledd
· Crefydd neu gred
· Enw llawn
· Rhif ffôn
· Cyfeiriad E-bost
· Cyfeiriad
Byddwn ond yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi. Ni fyddwn yn derbyn gwybodaeth o ffynonellau eraill.
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Dynodwyr Personol Sylfaenol
Manylion cyswllt, boed yn e-bost neu ffôn.
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Yn fewnol:
Dim ond y tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant fydd yn cael mynediad at eich data personol.
Yn allanol:
Dim
Mae yna sefyllfaoedd penodol lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
• Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith:
• Lle bo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
• Lle mae datgelu er diddordebau hanfodol y person dan sylw