Crynodeb o Hawliau i Archwilio Dogfennau
Crynodeb o hawliau fod yn bresennol yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Ceredigion
Crynodeb o Hawliau i Archwilio Dogfennau (18 Medi 2002)
Rynodeb O Hawliau I Fod Yn Bresennol Yng Nghyfarfodydd Cyngor Sir Ceredigion, Ei Gabinet, Pwyllgorau Ac Is-Bwyllgorau Ac I Archwilio A Chopïo Dogfennau O Dan Ran Va, Rhan Xi Ac Atodlen 12a O Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Fel Y&Rsquo;I Diwygiwyd) Ac Yn Unol  Chyfansoddiad Y Cyngormynediad I Gyfarfodydd
- Mae cyfarfodydd Cyngor Llawn Cyngor Sir Ceredigion a’i Gabinet, Pwyllgorau ac Is-Bwyllgorau (fel a nodir yn Atodiad I) yn agored i’r cyhoedd, yn ddibynnol ar baragraff 2 a 3 isod
- Disgwylir i’r cyhoedd gael eu gwahardd o gyfarfod yn ystod unrhyw eitem busnes pan bynnag y bydd yn debygol, os ydynt yn bresennol, y bydd gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu yn groes i ymrwymiad o hyder. Golyga gwybodaeth gyfrinachol wybodaeth a roddir i’r Cyngor gan Adran y Llywodraeth ar delerau sydd yn gwahardd iddi gael ei datgelu i’r cyhoedd a gwybodaeth na ellir ei datgelu gan Ddeddf neu Orchymyn Llys
- Gall y cyhoedd gael ei eithrio drwy benderfyniad yn ystod eitem busnes pa bryd bynnag y bydd yn debygol y datgelir “gwybodaeth wedi ei heithrio”. Ddiffinnir gwybodaeth wedi ei heithrio i gynnwys materion megis gwybodaeth bersonol, materion cyllidol a busnes pobl neu gwmnïau y mae’r Cyngor yn delio â hwy, camau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd mewn cyswllt â chysylltiadau diwydiannol, trafodion troseddol, ymgynghoriadau a thrafodaethau a chyngor yn ymwneud ag achosion cyfreithiol. Rhestrir y 15 categori llawn yn Atodiad II
Mynediad i Agenda ac Adroddiadau Cysylltiedig.
- Mae copïau o agendâu ac adroddiadau ar gyfer cyfarfod o Gyngor Llawn Cyngor Sir Ceredigion a’i Gabinet, Pwyllgorau ac Is-Bwyllgorau ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd, ac eithrio ar gyfer unrhyw adroddiad ar eitem pan na fydd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd (megis Adroddiadau sydd wedi eu marcio “Nid ar gyfer Eu Cyhoeddi” ynghyd â’r categori gwybodaeth sydd yn debygol o gael ei ddatgelu). Mae dogfennau ar gael dri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod neu cyn gynted ag y gelwir y cyfarfod neu cyn gynted ag yr ychwanegir eitem at yr agenda, os yn llai na thri diwrnod. Mae’r papurau ar gael i’w harchwilio yn Adran y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA rhwng 9.00 am a 4.30 pm ar ddiwrnodau’r wythnos (Teliffon 01545 572031/572034)
- Mae copïau o agendâu ac adroddiadau ar gael i aelodau o’r cyhoedd sydd yn bresennol yn y cyfarfod. Gellir gweld rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol bresennol yma neu eto drwy ffonio’r Adran
Archwilio Cofnodion
- Ar ôl cyfarfod o’r Cyngor Llawn, y Cabinet, Pwyllgor ac Is-Bwyllgor, bydd copi o’r cofnodion neu grynodeb o’r hyn a ddigwyddodd yn breifat ar gael er mwyn i’r cyhoedd eu harchwilio yn Adran y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron rhwng 9.00 am a 4.30 pm ar ddiwrnodau’r wythnos. Mae’r hawl hwn i archwilio yn bodoli am chwe blynedd o’r dyddiad y galwyd y cyfarfod
Archwilio Papurau Cefndir
- Gall aelodau o’r cyhoedd hefyd archwilio rhestr o bapurau cefndir ar gyfer unrhyw adroddiad a chynhwysir copi o bob dogfen yn y rhestr honno. Mae’r hawl hwn ar gael cyn gynted ag y cyhoeddir yr agenda ac mae’n parhau am bedair blynedd o ddyddiad y cyfarfod. Ni ellir archwilio papurau cefndir sydd yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth wedi ei heithrio
- Papurau cefndir yw dogfennau sydd yn gysylltiedig â thestun adroddiad, gan ddatgelu unrhyw ffeithiau neu faterion y seilir yr adroddiad arnynt ac y dibynnwyd arnynt i raddau helaeth wrth baratoi’r adroddiad, ond eu bod yn hepgor unrhyw waith a gyhoeddwyd. Dylid gwneud cais am archwilio’r cyfryw ddogfennau i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron
Lowri Edwards
Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd
Cyngor Sir Ceredigion
Neuadd Cyngor Ceredigion
ABERAERON
Ceredigion SA46 0PA
Atodiad I
Cabinet
Pwyllgorau:-
Pwyllgor Datblygu Rheoli a Thrwyddedu
Pwyllgor Rhestr Fer
Pwyllgor ac Is-Bwyllgor Safonau
Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu:-
Pwyllgor Cydlynu
Datblygu Economaidd, Twristiaeth Ewrop a Hyfforddiant
Addysg, Diwylliant a Hamdden
Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai
Cyllid a Phersonél
Priffyrdd, Eiddo a Gwaith
Gwasanaethau Cymdeithasol
Pwyllgorau Eraill:-
Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Ceredigion.
Atodiad II
Categori | Amod |
---|---|
1. Gwybodaeth yn ymwneud â gweithiwr arbennig, cyn-weithiwr neu ymgeisydd i fod yn weithiwr, neu un sydd â swydd arbennig, un oedd â swydd, neu ymgeisydd i fod â swydd o dan yr awdurdod | Nid yw gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig oni bai ei bod yn ymwneud ag unigolyn o’r disgrifiad hwnnw yn y swyddogaeth a nodwyd gan y disgrifiad, h.y. rhaid iddo ymwneud â, a bod yn rhywbeth y gellir ei adnabod fel rhywbeth sy’n cyfeirio at unigolyn arbennig yn y rolau a nodwyd |
2. Gwybodaeth yn ymwneud â gweithiwr arbennig, cyn-weithiwr neu ymgeisydd i fod yn weithiwr, neu un sydd â swydd arbennig, un oedd â swydd, neu ymgeisydd i fod â swydd o dan Bwyllgor llys ynadon neu bwyllgor prawf | Nid yw gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig oni bai ei bod yn ymwneud ag unigolyn o’r disgrifiad hwnnw yn y swyddogaeth a nodwyd gan y disgrifiad, h.y. rhaid iddo ymwneud â, a bod yn rhywbeth y gellir ei adnabod fel rhywbeth sy’n cyfeirio at unigolyn arbennig yn y rolau a nodwyd |
3. Gwybodaeth yn ymwneud â deiliad arbennig neu gyn-ddeiliad neu ymgeisydd am lety a ddarperir gan neu ar draul yr awdurdod | Nid yw gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig oni bai ei bod yn ymwneud ag unigolyn o’r disgrifiad hwnnw yn y swyddogaeth a nodwyd gan y disgrifiad, h.y. rhaid iddo ymwneud â, a bod yn rhywbeth y gellir ei adnabod fel rhywbeth sy’n cyfeirio at unigolyn arbennig yn y rolau a nodwyd |
4. Gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw ymgeisydd arbennig am, neu un sy’n derbyn neu a oedd yn derbyn unrhyw wasanaeth a ddarperir gan yr awdurdod | Nid yw gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig oni bai ei bod yn ymwneud ag unigolyn o’r disgrifiad hwnnw yn y swyddogaeth a nodwyd gan y disgrifiad, h.y. rhaid iddo ymwneud â, a bod yn rhywbeth y gellir ei adnabod fel rhywbeth sy’n cyfeirio at unigolyn arbennig yn y rolau a nodwyd |
5. Gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw ymgeisydd arbennig am, neu un sy’n derbyn neu a oedd yn derbyn unrhyw gymorth ariannol a ddarperir gan yr awdurdod | Nid yw gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig oni bai ei bod yn ymwneud ag unigolyn o’r disgrifiad hwnnw yn y swyddogaeth a nodwyd gan y disgrifiad, h.y. rhaid iddo ymwneud â, a bod yn rhywbeth y gellir ei adnabod fel rhywbeth sy’n cyfeirio at unigolyn arbennig yn y rolau a nodwyd |
6. Gwybodaeth yn ymwneud â mabwysiadu, gofal, maethu neu addysg unrhyw blentyn arbennig | Mae plentyn yn golygu rhywun o dan 18, rhywun sydd yn 18 ac sy’n dal wedi ei gofrestru fel disgybl ysgol, neu sy’n destun gorchymyn gofal, o fewn ystyr adran 31, Deddf Plant 1989 |
7. Gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson arbennig (heblaw’r awdurdod) | Nid yw gwybodaeth o fewn paragraff 7 yn eithriedig os oes rhaid iddi gael ei chofrestru o dan amrywiol ddeddfau, fel y Ddeddf Cwmnïau neu’r Ddeddf Elusennau. Er mwyn bod yn eithriedig rhaid i’r wybodaeth ymwneud â thrydydd person arbennig y mae’n rhaid gallu ei adnabod |
8. Cyfanswm unrhyw wariant y bwriedir ei wario gan yr awdurdod o dan unrhyw gytundeb arbennig i gaffael eiddo neu gyflenwi nwyddau neu wasanaethau | Mae gwybodaeth o fewn paragraff 8 yn eithriedig dim ond os, a chyhyd ag, y byddai datgelu’r swm dan sylw yn debygol o roi mantais i berson sy’n llunio neu sy’n ceisio llunio cytundeb gyda’r awdurdod mewn perthynas â’r fantais a fyddai’n deillio fel yn erbyn yr awdurdod neu fel yn erbyn personau eraill o’r fath |
9. Unrhyw delerau a argymhellwyd neu sydd i gael eu hargymell i’r awdurdod yn ystod trafodaethau am gytundeb am gaffael neu waredu eiddo neu gyflenwi nwyddau neu wasanaethau | Mae gwybodaeth o fewn paragraff 9 yn eithriedig dim ond os, a chyhyd ag, y byddai datgelu’r telerau i’r cyhoedd yn niweidio’r awdurdod yn y trafodaethau hynny neu unrhyw rai eraill sy’n ymwneud â’r eiddo neu’r nwyddau neu’r gwasanaethau hynny. (Mae gwaredu eiddo yn cynnwys rhoi diddordeb mewn neu hawl drosto) |
10. Identiti’r awdurdod (yn ogystal ag unrhyw berson arall, yn rhinwedd paragraff 7 uchod) fel y sawl sy’n cynnig unrhyw dendr arbennig ar gyfer cytundeb i gyflenwi nwyddau neu wasanaethau | At ddibenion y paragraff hwn, mae “tendr” yn cynnwys cais ysgrifenedig gan Weithlu Uniongyrchol y Cyngor a Gwasanaethlu Uniongyrchol y Cyngor |
11. Gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw ymgynghoriadau neu drafodaethau, neu ymgynghoriadau neu drafodaethau a fwriedir, mewn cysylltiad ag unrhyw faterion yn ymwneud â chysylltiadau llafur yn codi rhwng yr awdurdod neu Weinidog y Goron a gweithwyr, neu ddeiliaid swyddi yr awdurdod | Mae gwybodaeth o fewn paragraff 11 yn eithriedig dim ond os, a chyhyd ag, y byddai ei datgelu i’r cyhoedd yn niweidio’r awdurdod yn y trafodaethau hynny neu unrhyw rai eraill mewn cysylltiad â mater yn ymwneud â chysylltiadau llafur. Mae “materion yn ymwneud â chysylltiadau llafur” fel y nodwyd ym mharagraffau (a) i (g) adran 29(1) Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur 1974, h.y. materion a all fod yn destun anghydfod gydag undeb llafur |
12. Unrhyw gyfarwyddiadau i fargyfreithwyr a barn unrhyw fargyfreithiwr (boed hynny mewn cysylltiad ag unrhyw drafodion ai peidio), ac unrhyw gyngor a dderbyniwyd, gwybodaeth a gafwyd neu gamau i’w cymryd mewn cysylltiad ag:(a) unrhyw drafodion cyfreithiol gan neu yn erbyn yr awdurdod; neu (b) benderfynu ar unrhyw fater sy’n effeithio ar yr awdurdod; p’run ai, yn y naill achos neu’r llall, a yw’r trafodion wedi eu dechrau neu y meddylir am eu dechrau | |
13. Gwybodaeth a fyddai, pe bai’n cael ei datgelu i’r cyhoedd, yn datgelu bod yr awdurdod yn argymell - (a) rhoi o dan unrhyw ddeddf rybudd o dan neu yn rhinwedd yr hon y gosodir gofynion ar berson; neu (b) wneud gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan unrhyw ddeddf | Mae gwybodaeth o fewn paragraff 13 yn eithriedig dim ond os a chyhyd ag y gallai ddatgelu i’r cyhoedd fod yn gyfle i berson a effeithir gan y rhybudd, gorchymyn neu gyfarwyddyd drechu’r pwrpas neu un o’r pwrpasau dros roi rhybudd, gorchymyn neu gyfarwyddyd |
14. Unrhyw gamau a gymerir neu i’w cymryd mewn cysylltiad ag atal, ymchwilio i neu erlyn trosedd | |
15. Identiti achwynydd a warchodir | Mae “achwynydd a warchodir” yn golygu person sy’n rhoi gwybodaeth i’r awdurdod sy’n tueddu i ddangos bod (a) trosedd; (b) torri dyletswydd statudol; (c) torri rheolau cynllunio; neu (d) aflonyddwch wedi, neu yn cael neu ar fin cael ei gyflawni |
Nid yw gwybodaeth sy’n dod o fewn unrhyw rai o baragraffau 1 i 15 yn eithriedig yn rhinwedd y paragraff hwnnw os yw’n ymwneud â datblygiad arfaethedig y gall yr awdurdod cynllunio lleol roi caniatâd cynllunio iddo ei hun o dan Reoliad 3 o Reoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992.
Gwybodaeth Arall
Y mae’r wybodaeth ganlynol hefyd ar gael o’r Cyngor:-
- Manylion am y Cynghorwyr Sir
- Aelodau’r Cabinet a’r Pwyllgorau)
- Rhaglen o Gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol bresennol
- Rhestr o Glercod Cynghorau Cymuned o fewn Sir Ceredigion
Mae’r dogfennau canlynol hefyd ar gyfer eu harchwilio yn Adran y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron
(a) Cofnod o daliadau Lwfansau Aelodau a wnaethpwyd o dan Reoliad 18 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chyngorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002
(b) Cofrestr o Fudd Aelodau fel sydd yn ofynnol gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Budd Aelodau) 1992