Adnabod Moch
Gwybodaeth a Rheolau ar Adnabod Moch
Gellir prynu'r holl offer o siopau amaethyddol.
Mae'r rheolau fel a ganlyn:
- Bydd yn rhaid i bob mochyn dros 12 mis oed gael ei adnabod drwy ddefnyddio rhif cenfaint DEFRA ar gyfer pob daliad y byddant yn symud oddi wrtho
- Rhaid medru adnabod yn barhaol pob mochyn cyn ei symud i farchnad, beth bynnag y bo ei oedran, ac os caiff ei symud i'r lladdfa neu ddaliad arall. Gellir adnabod mochyn naill ai drwy dag yn y glust neu tatŵ sy'n nodi rhif cenfaint Defra neu slapfarc. Bydd yn rhaid medru gweld y slapfarc ar ddwy ysgwydd y mochyn
- Bydd yn rhaid i foch sy'n mynd i'r lladdfa feddu ar dag clust sy'n medru goroesi'r gwaith o brosesu'r carcas yn dilyn lladd y mochyn. Os bydd gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn hyn bydd angen i chi gysylltu â'r sawl wnaeth gyflenwi eich tagiau clust er mwyn ymholi ynglŷn â manylion penodol y tagiau
- Gallwch barhau i symud moch o dan 1 oed rhwng daliadau drwy ddefnyddio marc paent dros dro a ddylai barhau o leiaf hyd nes bydd y mochyn yn cyrraedd pen ei daith
- Pan fyddwch chi'n archebu cyfarpar slapfarc bydd yn dra phwysig bod y gweithgynhyrchwyr yn eich darparu â manylion cywir rhif y cenfaint wrth archebu
Tagiau Clust
- Rhaid iddynt fedru gwrthsefyll gwres yn ddigonol er sicrhau nad yw'r tag clust na'r wybodaeth a brintiwyd na stampiwyd arno yn cael ei ddifrodi adeg prosesu'r carcas yn dilyn ei anfon i'r lladdfa
- Rhaid iddynt gynnwys y llythyron "UK" ac yn dilyn hynny rhif y cenfaint er enghraifft UK AB 1234
- Haws i'w ddarllen yn ystod oes y mochyn
- Rhaid i dagiau fod wedi eu gwneud o fetel neu blastig neu gyfuniad o'r ddau
- Medru gwrthsefyll unrhyw ymyrraeth ohono
- Methu cael eu hail-ddefnyddio
- O'r fath gynllun fel y bydd yn parhau ynghlwm wrth y mochyn heb ei niweidio
- Gall tagiau a ddefnyddir er mwyn symud rhwng daliadau fod yn rhai plastig
Tatw
- Gall fod yn datwˆ o rif eich cenfaint – ar y glust
- Er enghraifft, AB1234
- Nid oes angen yr "UK"
Slapfarc
- Marc inc parhaol o rif eich cenfaint wedi'i osod ar ddwy ysgwydd flaen y mochyn
- Rhaid gallu ei ddarllen am oes y mochyn a thrwy gydol y broses o drin ei garcas
- Er enghraifft, AB1234
- Nid oes rhaid defnyddio "UK"
- Caniateir defnyddio offer aer cywasgedig ar gyfer gosod slapfarc
Marc Dros Dro
- Marc paent ar y mochyn er enghraifft, llinell goch, croes ddu neu gylch glas
- Rhaid iddo barhau hyd nes bydd y mochyn yn cyrraedd pen ei daith
- Ar y cyd a'r ddogfen symud bydd y marc dros dro yn nodi'r daliad lle y symudwyd y mochyn oddi yno
Adnabod Moch o dan 12 mis oed
- Wrth symud rhwng daliadau mi ellir gwneud hynny ar farc paent dros dro
- Os bydd yn mynd i ladd-dy neu i unrhyw fath o farchnad rhaid cael tag clust, tatŵ neu slap farciau dwbl
Adnabod Moch dros 12 mis oed
- Symud rhwng daliadau i ladd-dy ac i unrhyw fath o farchnad gyda thag clust, tatŵ neu slap farciau dwbl sy'n dangos eich rhif cenfaint defra
Trwyddedau Cerdded Moch Anwes
- Gellir cael trwydded i gerdded moch anwes
- Am drwydded bydd angen i chi gysylltu â'ch Swyddfa Ranbarthol Iechyd Anifeiliaid yng Nghaerfyrddin ar 01267 245400
- Bydd angen cymeradwyo eich trywydd - Os bydd y swyddog milfeddygol yn yr AHO o'r farn fod risg i'r trywydd, ni chaiff ei gymeradwyo
- Mae'n bosib na chaiff trywydd ei gymeradwyo os bydd yn agos i farchnad da byw, ffermydd moch â statws iechyd uchel neu siopau bwyd cyflym ayb
- Os caiff ei gymeradwyo cewch drwydded fydd angen ei adnewyddu'n flynyddol
Am wybodaeth a rheolau ar adnabod moch o'r wefan Llywodraeth Cymru cliciwch ar y linc canlynol: