Galw Diwahoddiad / Troseddau ar Garreg Y Drws
Cyflwyniad
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Ceredigion a Heddlu Dyfed Powys yn cynorthwyo Cynghorau Cymuned, Cynghorau Tref a Chydgysylltwyr Gwarchod Cymdogaeth i greu Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad yn y sir. Eu nod yw galluogi trigolion i ofalu amdanynt eu hunain ar garreg y drws a phennu’r trigolion hynny sy’n agored i niwed er mwyn eu cynorthwyo.
Mae Safonau Masnach Ceredigion a Heddlu Dyfed Powys yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i fynd i’r afael â masnachwyr twyllodrus a throseddau ar garreg y drws. I gael mwy o wybodaeth am Blismona yn y Gymdogaeth, ewch i wefan Heddlu Dyfed-Powys neu ffoniwch 101.
Beth yw troseddau carreg y drws?
Mae’n debygol y bydd y rhan fwyaf o’r bobl sy’n curo ar eich drws yn bobl ddidwyll. Serch hynny, mae’n bwysig cofio bod rhai ohonynt yn fasnachwyr twyllodrus, yn droseddwyr carreg y drws ac yn werthwyr annisgwyl. Fe allent alw heibio’n ddirybudd gyda’r bwriad o’ch twyllo i’w gadael i mewn i’ch cartref.
Mae ‘trosedd carreg y drws’ yn aml yn digwydd ar ôl i rywun alw heibio heb wahoddiad i gychwyn. Bydd masnachwyr diegwyddor yn targedu’r henoed a phobl sy’n agored i niwed, gan gyflawni gwaith diangen, gwaith gwael a gwaith peryglus hyd yn oed. Maent yn defnyddio dulliau bôn braich i geisio darbwyllo pobl i roi symiau mawr o arian iddynt am waith gwael. Gall lladron hefyd alw heibio heb wahoddiad er mwyn lladrata drwy dynnu sylw neu sleifio i’r tŷ.
Beth yw galw diwahoddiad?
Ymweld â chartrefi i werthu nwyddau neu wasanaethau heb gais na gwahoddiad gan y trigolion yw galw diwahoddiad.
Ydy galw diwahoddiad yn gyfreithlon?
Mae galw diwahoddiad yn gyfreithlon ar hyn o bryd. Serch hynny, nid yw’r rhan fwyaf ohonom ni eisiau i bobl alw i’n gweld heb wahoddiad. I rai ohonom, gall fod yn fygythiol, yn frawychus ac yn ddigywilydd, heb sôn am fod yn annifyr ac yn rhwystredig ar brydiau.
Mae’n ofynnol i unrhyw un sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau sy’n costio mwy na £42 roi hysbysiad ysgrifenedig sy’n rhoi 14 diwrnod i chi ganslo’r cytundeb. Os na chewch chi hysbysiad o’r fath, ni fydd modd gorfodi’r cytundeb ar gyfer y nwyddau neu’r gwasanaethau felly ni fydd rhaid i chi dalu, hyd yn oed os byddwch chi wedi derbyn nwyddau neu os bydd gwaith wedi’i gyflawni. Bydd unrhyw un sy’n methu â rhoi hysbysiad o’r fath hefyd yn cyflawni trosedd droseddol a bydd Safonau Masnach yn ymchwilio iddi. Mae hyn yn wir os ydych chi wedi gofyn i’r gwerthwr alw heibio neu os yw’r gwerthwr wedi galw heibio heb wahoddiad.
Parth Rheoli Galw Diwahoddiad
Beth yw e?
Menter i helpu i fynd i’r afael â throseddau carreg y drws yw’r Cynllun Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad. Amcanion y parthau yw helpu trigolion i deimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi a lleihau troseddu ac ofn troseddu gan bobl sy’n galw heibio i’ch cartref, gweithwyr ffug, gwerthwyr digywilydd, swyddogion ffug a lladron sy’n lladrata drwy dynnu sylw.
Erbyn hyn, rydym yn gwybod bod cysylltiad rhwng lladrata drwy dynnu sylw a masnachu twyllodrus – yn rhy aml o lawer mae gwerthwr sy’n galw heibio i’ch cartref ac sy’n ymddangos yn ddiniwed mewn gwirionedd yn cael cipolwg o’i amgylch er mwyn ailymweld i dorri i mewn i’ch tŷ neu ladrata drwy dynnu’ch sylw.
Er bod ymddygiad troseddol o’r fath yn gallu effeithio ar unrhyw un yn unrhyw le, mae ymchwil yn dangos bod pobl hŷn yn arbennig o agored i niwed, yn enwedig y rheini sy’n byw ar eu pen eu hun.
Nid yw Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad yn gwahardd pobl rhag galw heibio heb wahoddiad nac yn creu ardaloedd dan waharddiad. Serch hynny, fe allant fod yn ffordd effeithiol o atal pobl ddiegwyddor rhag galw heibio i gartrefi yn y parthau hyn heb wahoddiad ac fe allant roi hyder i’r trigolion ddweud “na”.
Ar ôl eu sefydlu, mae’n rhwydd cynnal Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad. Cafodd parthau o’r fath eu cyflwyno ar hyd a lled y wlad. Rydym wedi gweld eu bod yn lleihau nifer y troseddau sy’n cael eu cyflawni yn yr ardaloedd hyn yn gyffredinol.
Sut ydych chi’n gwybod eich bod mewn Parth Rheoli Galw Diwahoddiad?
Mewn Parth Rheoli Galw Diegwyddor, fe welwch arwyddion ar y polion lampau ar ddechrau a diwedd y parth. Mae’r arwyddion hyn yn rhoi gwybod i fasnachwyr eu bod yn cyrraedd ardal lle nad yw’r trigolion yn prynu nwyddau na gwasanaethau ar garreg y drws. Mae pob cartref yn cael llyfryn gwybodaeth sy’n rhoi cyngor i’r trigolion, ynghyd â sticer i’w arddangos ar y drws ffrynt neu yn y ffenestr i atgoffa unrhyw fasnachwr sy’n galw heibio.
Sut mae mynd ati i sefydlu Parth Rheoli Galw Diwahoddiad?
Os ydych chi’n credu bod angen parth rheoli galw diwahoddiad yn eich ardal chi, mae sawl peth i’w ystyried cyn bod modd i chi sefydlu parth:
- Arian – Bydd y swm sydd ei angen yn amrywio gan ddibynnu ar faint y parth. Mae cost fach ynghlwm wrth sefydlu parth a bydd y gost yn dibynnu ar faint y parth h.y. nifer yr arwyddion, y pecynnau a’r llythyron y bydd eu hangen. Mae’n bosib ariannu Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad o sawl ffynhonnell. Yn ddiweddar, cododd cyfleoedd ariannu drwy Gynghorau Plwyf/Cymuned, y Ddeddf Enillion Troseddau (drwy’r Heddlu), Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a Chymdeithasau Tai. Mae hefyd yn bosib i Gydgysylltydd Gwarchod Cymdogaeth drefnu i’r gymdogaeth ei hun ariannu’r parth.
- Mae angen tystiolaeth hefyd sy’n awgrymu bod galw diwahoddiad yn broblem yn yr ardal – I sefydlu Parth Rheoli Galw Diwahoddiad, mae angen tystiolaeth sylweddol i brofi bod problem yn yr ardal o ran troseddu ar garreg y drws, masnachwyr twyllodrus neu werthwyr digywilydd. Y ffordd orau o sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei chofnodi yw ffonio llinell ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 i siarad Cymraeg neu 0808 223 1133 i siarad Saesneg. Fel arall, gallwch siarad â’ch heddlu lleol os ydych yn pryderu am hyn. Os yw trigolion yn teimlo’n ofnus neu’n anniogel yn eu cartrefi oherwydd gweithgarwch o’r fath, neu os yw’r rhai sy’n galw heibio’n achosi anghyfleuster a rhwystredigaeth iddynt, efallai mai sefydlu parth yw’r ateb.
- Bydd arnoch angen cefnogaeth yr Heddlu lleol a’r Gwasanaeth Safonau Masnach lleol a bydd angen i chi ddangos bod eich ardal yn bodloni’r meini prawf i sefydlu parth – Ardaloedd lle mae cyfran fawr o’r trigolion yn agored i niwed yw’r ardaloedd mwyaf addas ar gyfer parthau rheoli galw diwahoddiad e.e. pobl oedrannus, trigolion sydd wedi dioddef trosedd ar garreg y drws a/neu ladrad, neu drigolion sy’n ei chael yn anodd ymdopi â gwerthwyr sy’n galw heibio’n rheolaidd i werthu nwyddau a gwasanaethau.
- Mae’n hanfodol gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod parthau’n cael eu creu a’u rheoli’n effeithlon ac yn effeithiol – Bydd angen i chi ddangos bod y trigolion am sefydlu cynllun o’r fath. Ni ddylech orfodi’r trigolion i gael parth rheoli galw diwahoddiad, felly bydd angen i chi ymgynghori â nhw i wneud yn siŵr eu bod am sefydlu parth o’r fath yn eu hardal. Does dim diben creu parth rheoli galw diwahoddiad os nad yw’r trigolion o’i blaid, oherwydd ni fydd yn gweithio. Os byddwch am drefnu cyfarfod cyhoeddus i glywed barn trigolion am sefydlu parth o’r fath, bydd y Gwasanaeth Safonau Masnach yn fodlon dod i’r cyfarfod. Serch hynny, nid pawb fydd am ddod i gyfarfod o’r fath. Felly, rydym yn argymell eich bod yn ysgrifennu at holl drigolion yr ardal i roi cyfle iddynt wrthwynebu sefydlu’r parth. Mae llythyr enghreifftiol ar gael
- Rydym hefyd yn argymell eich bod yn dewis unigolyn sy’n fodlon bod yn ddolen gyswllt i sicrhau bod y cynllun yn gynaliadwy;
- Os oes digon o bobl o blaid sefydlu parth yn eich ardal chi, llenwch Ffurflen Gais i Sefydlu Parth Rheoli Galw Diwahoddiad a’i hanfon at Safonau Masnach Ceredigion. Mae Ffurflen Gais i Sefydlu Parth Rheoli Galw Diwahoddiad ar gael.
Ar ôl lansio’r parth, bydd y Gwasanaeth Safonau Masnach yn rhoi cyngor i chi am arwyddion addas i’w harddangos ar bolion lampau ac ati. Cyhyd â bod cyflenwad ohonynt ar gael gennym, bydd modd i ni hefyd ddarparu Pecynnau i Drigolion (gan gynnwys sticeri i’w harddangos ar y drws ffrynt / yn y ffenest) i’w dosbarthu i bob cartref yn y parth. Mae copi ar gael o un o’r llyfrynnau sy’n rhan o’r Pecyn i Drigolion.
Yna, bydd manylion y parth yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.
Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad
Mae Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad ar gael yng Ngheredigion. Gweler rhestr y parthau isod.
Ardal | Lleoliad | Nifer y cartrefi |
---|---|---|
Llanbadarn Fawr 1 | Parc Yr Onnen & Cwrt Yr Onnen | 39 |
Llanbadarn Fawr 2 | Brynrheidol Estate | 75 |
Llanbadarn Fawr 3 | Maes Mawr Estate | 86 |
Llanbadarn Fawr 4 | Brynglas Road | 53 |
Llanbadarn Fawr 5 | Cae Ceredig | 86 |
Os ydych yn byw mewn ardal lle mae parth wedi’i sefydlu a’ch bod yn gwybod bod pobl yn galw heibio heb wahoddiad, neu os hoffech ragor o wybodaeth am sefydlu parth yn eich ardal chi, ffoniwch 0808 223 1144 i siarad Cymraeg neu 0808 223 1133 i siarad Saesneg.
Rhoi gwybod am bobl sy’n galw’n ddiwahoddiad
Os ydych yn byw mewn parth a bod pobl yn dal i alw heibio’n ddi-baid:
- Dylech wrthod gwneud unrhyw fusnes gyda nhw. Dywedwch wrthyn nhw bod yr ardal yn Barth Rheoli Galw Diwahoddiad.
- Nodwch pwy sydd wedi galw heibio a manylion unrhyw gerbyd, gan gynnwys rhif cofrestru’r cerbyd. Anfonwch y llythyr enghreifftiol isod at fasnachwyr i dynnu’u sylw at y rheoliadau perthnasol.
- Rhowch y wybodaeth i Wasanaeth Safonau Masnach Ceredigion drwy ffonio 0808 223 1144 i siarad Cymraeg neu 0808 223 1133 i siarad Saesneg neu i’r Heddlu drwy ffonio 101. Fodd bynnag, os byddwch yn teimlo dan fygythiad, ffoniwch 999. Bydd y drefn o ymdrin â phobl sy’n galw’n ddiwahoddiad mewn Parth Rheoli Galw Diwahoddiad yn amrywio gan ddibynnu ar y math o alwad ddiwahoddiad a’r adnoddau sydd ar gael. Ar ôl i Wasanaeth Safonau Masnach Ceredigion a/neu’r heddlu gael gwybod am unrhyw achos, bydd yn ymchwilio iddo ac yn cymryd camau pellach os bydd angen.
Os ydych chi wedi ymrwymo i gytundeb gyda gwerthwr carreg y drws:
- Os oes gennych chi wybodaeth am fasnachwyr sy’n galw’n ddiwahoddiad neu os oes angen cyngor arnoch chi am hawliau defnyddwyr neu droseddau carreg y drws, cysylltwch â’r Gwasanaeth Safonau Masnach drwy ffonio 0808 223 1144 i siarad Cymraeg neu 0808 223 1133 i siarad Saesneg. Gall y Gwasanaeth Safonau Masnach wneud yn siŵr eich bod wedi cael y gwaith papur perthnasol ac nad oes unrhyw drosedd droseddol arall wedi’i chyflawni.